Cyfleoedd i wirfoddoli gyda Phanel Atal Troseddu Pilgwenlli

3ydd Ebrill 2019

Mae Panel Atal Troseddu Pilgwenlli'n recriwtio aelodau newydd.

Grŵp o wirfoddolwyr yw'r Panel Atal Troseddu sy'n gweithio gyda'r heddlu i atal troseddu yn eu cymunedau.

Gallai'r gwaith hwn gynnwys helpu i wella diogelwch cartrefi, patrolau i ganfod pobl a allai ddioddef troseddau, codi ymwybyddiaeth o dechnegau atal troseddau, gwylio cyflymder cymunedol, ac amrywiaeth o fentrau eraill i helpu trigolion i gadw'n ddiogel.

Dywedodd Victoria Ward, cadeirydd Panel Atal Troseddu Pilgwenlli: “Trigolion ydym ni sydd am wneud gwahaniaeth a rhoi rhywbeth yn ôl i'n cymuned.

“Mae'r panel atal troseddu'n gyfle gwych i gefnogi pobl fregus yn y gymuned a helpu i greu amgylchedd mwy diogel i holl drigolion Pilgwenlli.”

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent sy'n ariannu paneli atal troseddu.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae paneli atal troseddu'n gwneud gwaith gwerthfawr yn ein cymunedau, yn gweithio'n anhygoel o galed i helpu i atal troseddu mewn mannau lleol a chefnogi pobl fregus.

“Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth yn eu cymuned."

Mae aelodau'r Panel Atal Troseddu yn destun gwiriadau fetio sylfaenol yr Heddlu ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn 18+ oed.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â pillcrimepreventionpanel@gmail.com