Cosbi plant yn gorfforol yn erbyn y gyfraith yng Nghymru

21ain Mawrth 2022

O heddiw, [21 Mawrth] bydd cosbi plant yn gorfforol yn erbyn y gyfraith yng Nghymru wrth i Lywodraeth Cymru a’r gwasanaethau brys ddod at ei gilydd i roi plant wrth galon penderfyniadau.

Mae Cymru’n ymuno â thros 60 o wledydd ledled y byd i ddiddymu cosbi plant yn gorfforol. Mae’r ddeddfwriaeth bwysig hon yn diddymu’r amddiffyniad cyfreithiol hynafol 160 oed ac yn rhoi i blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.

O dan y Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 mae pob mathau o gosb gorfforol, megis smacio, bwrw, slapio ac ysgwyd, yn erbyn y gyfraith. Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, o 21 Mawrth 2022.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: ”Rwyf wrth fy modd bod cosbi plant yn gorfforol yn erbyn y gyfraith yng Nghymru yn awr. Mae hwn yn gyflawniad hanesyddol i blant a’u hawliau.

“Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi’n glir bod gan blant hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed a rhag cael eu brifo ac mae hyn yn cynnwys cosbi corfforol. Mae’r hawl honno wedi cael ei chorffori yng nghyfraith Cymru yn awr. Dim mwy o amwysedd. Dim mwy o ‘amddiffyniad cosb resymol.’ Mae hynny yn y gorffennol. ‘Does dim lle i gosbi corfforol mewn Cymru fodern.”

Meddai Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae amddiffyn a diogelu plant rhag niwed yn rhan greiddiol o blismona. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn glir ac, ynghyd â gwaith partner da, bydd yn ein helpu ni i gyd i gadw plant yng Nghymru yn fwy diogel.

“Mae’r newid yn y ddeddfwriaeth heddiw yn gwneud cosbi plentyn yn gorfforol yn anghyfreithlon.

“Rydym yn gweithio gyda’r cyhoedd, asiantaethau partner a Llywodraeth Cymru ac rydym wedi ymroi i addysgu, i gefnogi a, lle y bo angen, i gymryd camau gweithredu.

“Trwy ddod at ein gilydd a diffinio’r gwahaniaethau rhwng disgyblu a chosbi corfforol yn glir rydym yn sicrhau na fydd y genhedlaeth nesaf yn dioddef o effeithiau profiadau trawmatig.”

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae’n hen bryd i blant gael yr un amddiffyniad rhag cosbi corfforol ag oedolion, ac mae hyn yn ein gwneud ni’n gyson â nifer o wledydd ledled y byd trwy roi amddiffyniad cyfreithiol cyfartal i blant.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg ac arweiniad yn cael ei roi i rieni.

“Rydym wedi cefnogi creu cynllun gweithredu ar gyfer y Ddeddf ac rwyf yn falch y bydd gwasanaethau cymorth ar gael i deuluoedd gan gynghorau.

“Nid yw’r gyfraith yn gwneud rhieni’n droseddwyr yn ddiarwybod a dim ond pan fydd yn angenrheidiol y bydd camau gorfodol yn cael eu cymryd.”