Comisiynydd yr Heddlu a throseddu'n nodi blwyddyn ers marwolaeth cwnstabl Heddlu

14eg Awst 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi talu teyrnged i Gwnstabl Heddlu Andrew Harper o Heddlu Thames Valley a laddwyd ar 15 Awst 2019 wrth gyflawni ei ddyletswydd.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae marwolaeth Cwnstabl Heddlu Harper yn ein hatgoffa o'r peryglon mae swyddogion heddlu a'n holl weithwyr gwasanaethau brys yn gallu eu hwynebu bob dydd wrth iddynt amddiffyn ein cymunedau.

"Dim ond ychydig fisoedd yn ôl cafodd un o'n swyddogion ni yng Ngwent ei drywanu wrth gyflawni ei ddyletswydd a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch eto i'n swyddogion heddlu, gweithwyr y gwasanaethau brys ac, wrth gwrs, eu teuluoedd, am bopeth maent yn ei wneud.

“Mae hwn yn ben-blwydd trist i orfod ei nodi a hoffwn ddweud wrth deulu Cwnstabl Heddlu Harper a'i gydweithwyr yn yr heddlu fy mod yn meddwl amdanynt ac yn anfon dymuniadau gorau atynt ar yr adeg anodd hon."