Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n croesawu cyllid gan y llywodraeth ar gyfer cyfarpar diogelu personol

27ain Gorffennaf 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu'r newyddion y bydd lluoedd heddlu'n cael ad-daliad gan Lywodraeth y DU am gyfarpar diogelu personol o safon feddygol a brynwyd i reoli argyfwng Covid-19.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf yn falch bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod y costau sylweddol mae lluoedd heddlu wedi mynd iddynt er mwyn sicrhau bod gan swyddogion y cyfarpar priodol yn ystod argyfwng Covid-19.

“Mae cael y cyfarpar diogelu personol cywir ar gael wedi bod yn hollbwysig er mwyn sicrhau lles swyddogion heddlu, staff a'r cyhoedd.

"Mae'n galonogol na fydd rhaid i ni ddod o hyd i'r arian ychwanegol ar gyfer y cyfarpar hwn o'n cyllideb sydd eisoes dan straen."