Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n canmol ymdrechion yr heddlu i fynd i'r afael â beicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon

11eg Mawrth 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol ymdrechion Heddlu Gwent i fynd i'r afael â beicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.

Mae beicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon wedi cynyddu yn ystod y pandemig gan greu difrod sylweddol i gefn gwlad, niweidio anifeiliaid sy'n pori a rhoi cerddwyr a phobl eraill sy'n defnyddio cefn gwlad mewn perygl.

Mewn ymgyrch diweddar, atafaelodd yr heddlu 15 beic oddi ar y ffordd, codwyd gwŷs ar gyfer 10 o bobl am yrru anghyfreithlon ac arestiwyd unigolyn am yrru peryglus.  Yn ystod menter ar y cyd â Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys cyhoeddwyd hysbysiadau cosb benodedig Covid 19 i chwech o ddynion o Coventry ar ôl iddynt deithio i Chwarel Trefil ym Mlaenau Gwent gyda'r bwriad o ddefnyddio beiciau sgrialu.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae beicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn cael ei weld yn aml fel trosedd heb ddioddefwr ond mae hynny'n gwbl anghywir. Yn ogystal â gwneud difrod i gefn gwlad, mae beicwyr oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn aml yn achosi anafiadau a thrallod i anifeiliaid sy'n pori ac yn amharu ar weithgareddau ffermio, sy'n achos pryder go iawn i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig.

“Mae llawer o'r cerbydau hyn heb yswiriant, heb dreth ac ni ddylid eu reidio ar y ffyrdd, sy'n golygu bod defnyddwyr arferol y ffyrdd yn cael eu rhoi mewn perygl hefyd.

"Mae'n drosedd eithriadol o anodd ei blismona ac mae pwerau presennol yr heddlu i gymryd camau i'w atal yn gyfyngedig. Fodd bynnag, trwy weithio gyda'n partneriaid a lluoedd heddlu cyfagos rydym yn cymryd camau gweithredu ac yn anfon neges glir na fydd y gweithgarwch hwn yn cael ei oddef yma yng Ngwent."

Dywedodd Arolygydd Aled George, arweinydd y llu ar feicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon:

"Mae Heddlu Gwent yn defnyddio ymgyrchoedd dim goddefgarwch i ymateb i feicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn ein cymunedau, ac rydym yn cefnogi asiantaethau partner yn aml gyda gweithgareddau tebyg er mwyn i ni fynd i'r afael â'r broblem hon gyda'n gilydd.

"Nid yw beicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau. Nid yn unig mae'r math hwn o weithgarwch yn achosi difrod amgylcheddol anferth i'n cefn gwlad hyfryd ond mae hefyd yn effeithio ar fywydau'r bobl sy'n byw yno.

"Rydym wedi ymroi i fynd i'r afael â'r broblem hon ar draws holl ardaloedd y llu. Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am feicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn eich cymuned, riportiwch y mater ar 101 neu sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter.”

Gall trigolion sy'n amau bod rhywun yn defnyddio beic oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon roi gwybodaeth yn ddienw i Heddlu Gwent ar 101. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.