Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dyfarnu £423,000 i grwpiau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc

14eg Mawrth 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi dyfarnu £423,174.80 i grwpiau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ledled Gwent.

Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu ar agor i sefydliadau dielw sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n ymwneud, neu mewn perygl o ddechrau ymwneud, â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd wedi dioddef trosedd.

Mae cyfran o'r arian yn y gronfa wedi cael ei atafaelu gan droseddwyr, a gall sefydliadau wneud cais am symiau o £10,000 i £50,000.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae plant a phobl ifanc yn aml yn gallu bod mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a dyna pam mae fy nghronfa gymunedol yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sy'n galluogi pobl ifanc i ganolbwyntio ar weithgareddau cadarnhaol a chynhyrchiol.

"Sefydliadau lleol sydd yn y lle gorau i wybod beth sydd ei angen yn eu hardaloedd yn aml ac mae'r prosiectau yma'n galluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a datblygu eu hyder i'w helpu nhw i gael dyfodol hapusach ac iachach.

"Trwy fuddsoddi arian a gafwyd trwy weithredoedd troseddol gallwn sicrhau ei fod yn mynd yn ôl i'r gymuned lle gall wneud y mwyaf o ddaioni, ac rwyf yn falch fy mod wedi buddsoddi mwy na £2 filiwn mewn prosiectau cymunedol ers cael fy ethol yn 2016."

Y sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid yw:

Cymorth i Fenywod Cyfannol (Gwent gyfan)
Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd (Caerffili)
Urban Circle (Blaenau Gwent)
Brynmawr Interact (Brynmawr)
Media Academy Wales (Gwent gyfan)
Mind Casnewydd (Casnewydd)

Mae chwe phrosiect arall wedi derbyn cyllid ail neu drydedd flwyddyn. Y rhain yw:
Cymdeithas Cymuned Iemenïaidd Casnewydd (Casnewydd)
County in the Community (Casnewydd)
Empire Fighting Chance (Torfaen)
Tŷ Cymunedol (Casnewydd)
Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (Torfaen)
Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (Casnewydd)