Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn croesawu aelodau newydd y Senedd

8fed Mai 2026

Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, wedi croesawu aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd i'r Senedd a fydd yn gwasanaethu dinasyddion Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Dywedodd: "Hoffwn longyfarch Aelodau'r Senedd ar gael eu hethol. Mae fy nhîm a minnau'n gweithio'n agos iawn gyda chynrychiolwyr etholedig Cymru a'u swyddfeydd, a byddaf yn cwrdd â nhw i gyd yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Dyma'r etholiad sydd wedi achosi’r rhaniad mwyaf yng Nghymru yn fy oes i. Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd sylweddol yn fyd-eang, sydd wedi arwain at fwy o densiwn a chynnydd mewn rhethreg ymrannol, ar-lein ac oddi ar lein, trwy gydol y cyfnod ymgyrchu.

"Nawr bod yr etholiad drosodd, rwy'n galw ar yr holl aelodau i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, dinasyddion Gwent, ac i weithio gyda'n gilydd i gyflawni'r gorau i'n cymunedau."