Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi prosiect bocsio mewn ysgolion

20fed Mai 2026

Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn cefnogi prosiect bocsio mewn ysgolion sy'n cael ei gynnal gan gampfa bocsio St Joseph yng Nghasnewydd.

Mae'r clwb yn darparu sesiynau bocsio i ddisgyblion ysgol uwchradd ledled Casnewydd, gyda'r nod o ddatblygu eu sgiliau i’w galluogi i ymuno â dosbarthiadau bocsio yn y gampfa. Mae hefyd yn gweithio gyda'r heddlu a'r gwasanaeth prawf i gefnogi troseddwyr ifanc, yn ogystal ag yn darparu sesiynau i bobl sydd wedi dioddef trosedd.

Yn ystod y sesiynau, mae cyfranogwyr yn ymarfer sgiliau bocsio ac yn gweithio ar eu ffitrwydd, tra hefyd yn dysgu am ddisgyblaeth, datblygu meddylfryd cadarnhaol a gwaith tîm.

Dywedodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: "Mae'r prosiect hwn yn cynnig ystod eang o fanteision, o wella ffitrwydd corfforol a chryfhau gwydnwch meddyliol i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

"Trwy gynnig cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar y gweithgareddau hyn ar adeg yn eu bywydau pan rydyn ni'n gwybod eu bod yn fwy agored i gymryd rhan mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydyn ni'n eu harfogi â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud dewisiadau cadarnhaol, iachach am eu dyfodol."

Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan ddefnyddio arian a adferwyd o enillion troseddu. Gall grwpiau cymunedol wneud cais i'r gronfa am grantiau sy'n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi mentrau lleol.

Dywedodd yr hyfforddwr bocsio, Billy Reynolds: "Gyda bocsio daw ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad. Mae'n dysgu rheolaeth emosiynol, disgyblaeth a hunan-gyfyngiad. Mae hefyd yn darparu allfa iach ar gyfer ymddygiad ymosodol a straen, a gall helpu pobl ifanc i reoli eu teimladau a'u rhwystredigaethau yn well.

"Mae hyfforddi'n rheolaidd hefyd yn helpu i ddatblygu gwydnwch ac ymdeimlad cryf o reolaeth, ac mae cyfranogwyr yn fwy tebygol o osgoi dulliau ymdopi niweidiol fel alcohol neu gyffuriau. Ond beth yw'r prosiect hwn mewn gwirionedd yw helpu unigolion i wneud dewisiadau iachach, magu hyder a sgiliau cymdeithasol, ac yn y pen draw dod yn fersiynau gwell ohonyn nhw eu hunain."