Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn canmol timau plismona cymdogaeth Gwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi canmol timau plismona cymdogaeth Gwent am y gwaith hollbwysig maen nhw'n ei wneud i gefnogi cymunedau a'u cadw nhw'n ddiogel ledled y rhanbarth.
Wrth siarad yn ystod Wythnos Plismona Cymdogaeth, diolchodd y Comisiynydd i swyddogion a staff am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u hymrwymiad parhaus i wasanaethu pobl Gwent, a hynny mewn amgylchiadau anodd yn aml.
Mae Wythnos Weithredu Plismona Cymdogaeth (15-19 Mehefin 2026) yn gyfle i gydnabod y cyfraniad pwysig mae timau plismona cymdogaeth yn ei wneud i ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol lleol ledled Cymru a Lloegr.
Yn ystod yr wythnos aeth y Comisiynydd ar batrôl gyda'r tîm plismona cymdogaeth lleol ym Margod a siaradodd â swyddogion am y gwaith sy'n cael ei wneud i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref.
Dywedodd: “Mae timau plismona cymdogaeth Gwent yn gwneud gwaith hollbwysig, yn meithrin hyder a dealltwriaeth ymysg ein cymunedau ac ymdrin â'r materion sydd yn fwyaf pwysig i bobl leol.
"Mae ein cymunedau wedi dweud wrthym ni eu bod eisiau gweld plismona mwy gweledol, ac rwyf wedi bod yn falch iawn i weld sut mae Tîm Gweithredu yn y Gymuned Gwent wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gryfhau'r ymateb lleol yn yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf, a sicrhau canlyniadau.
"Mae plismona yn destun llawer o graffu, ac felly y dylai hi fod, ond rhaid i ni gydnabod y gwaith da mae ein timau cymdogaeth yn ei wneud bob dydd, gan roi eu hunain mewn perygl personol yn aml. Mae eu presenoldeb yn tawelu meddwl ac yn helpu i atal troseddu cyn iddo ddigwydd. Hoffwn ddiolch i swyddogion a staff, ar ran pobl Gwent, am eu gwasanaeth."