Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn croesawu adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

31ain Hydref 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi croesawu adroddiad gan Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru sy'n galw am fwy o gydweithrediad rhwng gwneuthurwyr polisi cyfiawnder a gwasanaethau cyhoeddus wedi’u datganoli.

Sefydlwyd Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r system cyfiawnder yng Nghymru, ac mae'n argymell y dylai polisi cyfiawnder fod yn gyson â pholisïau eraill, yn enwedig y rhai sydd wedi'u datganoli i Gymru, fel iechyd, addysg a lles cymdeithasol.

Dyma'r adolygiad cyntaf o'i fath yng Nghymru am dros 200 mlynedd ac mae'n amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol polisi cyfiawnder.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn croesawu'r adroddiad hwn sy'n galw am fwy o gydweddu o ran gwasanaethau cyhoeddus, pa un a ydyn nhw wedi’u datganoli i Gymru ar hyn o bryd neu beidio.

"Mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai'n well pe byddai’r holl wasanaethau sy'n effeithio ar bobl yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Fel comisiynwyr yng Nghymru rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwnnw, fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd angen cytundeb Llywodraeth y DU arno ac nid oes unrhyw arwydd ar hyn o bryd y bydd hynny'n digwydd.

"Byddwn yn parhau i ymdrechu i gael y cydlyniant a'r cydweithrediad gorau posibl yng Nghymru rhwng gwasanaethau wedi’u datganoli a gwasanaethau a gadwyd yn ôl. Yn wir, cafodd y gwaith mae comisiynwyr a phrif gwnstabliaid wedi ei wneud yn barod yn hyn o beth ei ganmol gan y Comisiwn yn ei gyflwyniad. Rydym yn croesawu ffurfio Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru yn eithaf diweddar hefyd a fydd yn galluogi gwell cynllunio a chydlyniant strategol.

"Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu pellach gyda llywodraethau Cymru a'r DU ynghylch sut y gellir datblygu a chynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd orau posibl yng Nghymru, gan gynnwys y system cyfiawnder.

Gellir darllen yr adroddiad llawn yma: https://gov.wales/commission-justice-wales