Chwalu rhwystrau

1af Hydref 2020

Ymunodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, â Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, mewn sesiwn ar-lein gydag arweinwyr o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Gwent yr wythnos hon.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Roeddwn i’n falch o ymuno â'r Prif Gwnstabl, cyd-weithwyr plismona a chynrychiolwyr cymunedol yn y sesiwn ymgysylltu hynod gadarnhaol hon.

"Dyma ein hail gyfarfod ac mae'r fforwm ar-lein hwn yn rhoi cyfle i ni siarad yn uniongyrchol â'n cymunedau o Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chael trafodaethau agored a gonest.

"Roeddwn i’n falch o glywed Heddlu Gwent yn cael canmoliaeth am weithredu ar y materion a godwyd mewn galwadau blaenorol, yn enwedig o amgylch ardal Pilgwenlli. Mae hefyd yn amlwg bod meysydd lle y mae angen i ni wneud mwy o waith.

"Gwyddom na all yr heddlu fynd i'r afael â'r holl faterion sy'n effeithio ar gymunedau ar eu pennau eu hunain ac roedd pwysigrwydd gweithwyr ieuenctid wrth fynd i'r afael â phroblemau o oedran ifanc yn faes o bwys. Fel cyn-weithiwr ieuenctid rwy'n deall pa mor bwysig yw hyn ac mae’n rhywbeth y byddwn ni’n ei ystyried wrth symud ymlaen.

"Mae'r sesiynau hyn yn hynod werthfawr, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hadborth."