Cerdded cŵn yn helpu pobl ifanc i ymddiried mewn gwasanaethau cyhoeddus
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn ariannu prosiect peilot sy'n ceisio gwella ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus ymysg pobl ifanc agored i niwed.
Mae Prosiect Baxter yn darparu rhaglen ymyrraeth gynnar i bobl ifanc sy’n profi trafferthion gyda gorbryder, rheoli emosiynau, ymddygiad, ymddiriedaeth, ac sy’n osgoi mynd i’r ysgol. Mae’r rhaglen yn defnyddio anifeiliaid ac yn cael ei llywio gan drawma.
Mae sesiynau'n anffurfiol o fwriad, ac mae ymarferwyr yn defnyddio presenoldeb cysurlon eu cŵn i feithrin ymddiriedaeth a chreu amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc siarad am y problemau sy'n effeithio arnyn nhw.
Mae'r prosiect peilot yn defnyddio'r model yma i archwilio'r anawsterau mae rhai pobl ifanc yn eu profi gydag ymddiried mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel addysg a'r heddlu. Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu'n cael ei defnyddio i helpu gwasanaethau i wella'r ffordd maen nhw'n ymgysylltu â phobl ifanc yn y dyfodol.
Meddai Jane Mudd: “Mae'n wych gweld y gwahaniaeth mae rhywbeth mor syml â mynd â chi am dro yn gallu ei wneud wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Yn fy Siarter Plant a Phobl Ifanc, addewais i bobl ifanc y byddwn yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod gwasanaethau y gorau y gallant fod. Mae'r prosiect peilot yma'n ein helpu ni i gael dealltwriaeth go iawn o'r rhwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth ymgysylltu â gwasanaethau. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth hon i wneud gwahaniaeth go iawn i'r plant a phobl ifanc yn ein cymunedau yn y dyfodol.”
Sefydlwyd Prosiect Baxter gan David O'Driscoll ar ôl iddo dreulio blynyddoedd yn gweithio yn y gwasanaeth prawf a'r gwasanaeth troseddau ieuenctid. Dywedodd: "Mae ein sesiynau yn anffurfiol o fwriad, ac yn cynnwys pethau mor syml â mynd â'r ci am dro. Er hynny, mae sail ddifrifol i'r sesiynau, ac maen nhw’n cael eu llywio gan dystiolaeth. Mae ein gwaith yn meithrin perthnasoedd seiliedig ar ymddiriedaeth ac yn gwella rheolaeth, presenoldeb ac ymgysylltu â phobl ifanc. Rydym yn defnyddio'r arfer hwnnw i archwilio eu perthynas gyda gwasanaethau cyhoeddus yn awr a gweld sut y gellir gwella'r rhain."
Mae'r prosiect yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o ysgolion yng Ngwent ar hyn o bryd, gan gynnwys Ysgol John Frost yng Nghasnewydd. Meddai swyddog lles teuluoedd Lorraine Pollard: “Rydyn ni'n gweld cynnydd mawr mewn problemau lles sy'n effeithio ar ein pobl ifanc ac sy'n gallu arwain at achosion o ymddieithrio o addysg a phrofi anawsterau y tu allan i'r ysgol. Maen nhw'n aml yn dawedog wrth siarad ag aelodau staff, ond mae cael Charlotte a'i chi, Olaf, yma yn creu awyrgylch gwahanol, gwella hwyliau a helpu pobl ifanc i deimlo'n hapusach ynglŷn â'r ysgol. Mae'r gwahaniaeth wedi bod yn anhygoel, ac rydyn ni wedi gweld pobl ifanc yn dod yn fwy hyderus ac yn hapusach. Mae eu perthnasoedd gydag athrawon a staff wedi gwella llawer.”