Cannoedd o bobl ifanc yn mwynhau’r Ŵyl Haf

8fed Awst 2019

Daeth dros 500 o bobl ifanc o Went i fwynhau diwrnod o gerddoriaeth fyw yn Nhŷ Tredegar ddydd Gwener 2 Awst yn rhan o Ŵyl Haf Urban Circle.

Cafodd yr ŵyl ei chreu a’i threfnu gan bobl ifanc 13 – 25 oed yn rhan o brosiect U-Turn Urban Circle, sy’n defnyddio’r celfyddydau creadigol i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl ifanc yn ardal Pilgwenlli, Casnewydd a’r cyffiniau.

Yr artist arobryn rhyngwladol Lady Leshurr oedd y prif artist, mewn rhaglen orlawn a welodd 60 act yn camu i’r llwyfan.

Cafodd y prosiect U-Turn ei ariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent trwy Gronfa Gymunedol yr Heddlu, a chafodd y digwyddiad gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Meddai Loren Henry, cydlynydd prosiectau Urban Circle: “Hon oedd y drydedd ŵyl i ni ei chynnal, a’r digwyddiad gorau eto o bell ffordd.

“Cafodd popeth – o’r gerddoriaeth a’r adloniant i’r bwyd a hyd yn oed y trefniadau diogelwch ar y safle – ei gynllunio a’i drefnu gan bobl ifanc. Llwyddodd pob un ohonynt i ennill cymwysterau stiwardio a chymwysterau cymorth cyntaf, a llwyddodd tua’u hanner i gwblhau achrediadau ym maes diogelu a gwaith ieuenctid. O ganlyniad bu modd i ni dalu cyflog iddynt am weithio yn y digwyddiad, a bydd hynny o gymorth iddynt pan fyddant yn ymgeisio am swyddi.

“Creodd y digwyddiad amgylchedd saff lle gallai’r bobl ifanc fwynhau a bod yn nhw eu hunain, ac rydym yn edrych ymlaen yn barod at gynllunio ein digwyddiad nesaf yn rhan o Garnifal Pilgwenlli ym mis Awst.

“Hoffwn ddiolch i bob aelod o’r tîm am gynnal digwyddiad mor wych a diolch i’n partneriaid a oedd yn cynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Gwent, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, G-Expressions, Prifysgol De Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Beacons Cymru, a’r gweithwyr proffesiynol lleol ym maes y celfyddydau Jamie Winchester a Gareth Leaman am yr holl gymorth a sicrhaodd fod y prosiect hwn yn llwyddiannus.”

Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Roedd yr Ŵyl Haf yn ddigwyddiad gwych, a rhaid i fi ganmol holl waith caled ac ymroddiad tîm Urban Circle.

“Daeth y digwyddiad â phobl ifanc ynghyd o bob rhan o’r ddinas, gan chwalu rhwystrau a helpu i greu cymuned fwy cydlynus.

“Mae wedi rhoi cyfle i bobl ifanc sianelu eu hegni i wneud rhywbeth cadarnhaol er lles eu cymuned yn lle cael eu harwain o bosibl i droseddu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

“Rwyf wrth fy modd o allu cefnogi Urban Circle am flwyddyn arall drwy’r Gronfa Gymunedol sydd gennyf, ac edrychaf ymlaen at glywed am ei ddigwyddiad nesaf.”

I gael rhagor o fanylion am Urban Circle, ewch i https://ucnewport.co.uk