Cadetiaid Trinity Fields yn dathlu mewn seremoni gorffen hyfforddiant

21ain Gorffennaf 2026

Bu plant o uned cadetiaid yr heddlu Ysgol Trinity Fields yn dathlu diwedd eu cwrs cadetiaid gyda seremoni gorffen hyfforddiant.

Mae'r disgyblion wedi bod yn gweithio gyda thîm Next Gen Heddlu Gwent i ddysgu mwy am yr heddlu a chwblhau gweithgareddau i'w helpu nhw i ddod yn fwy hyderus ac i ddatblygu eu sgiliau.

Trinity Fields yw'r ysgol ADY arbenigol gyntaf yng Ngwent i ymuno â'r Cynllun Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ac mae wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gwent ers 2019.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn fraint go iawn ymuno â'r plant ar gyfer y dathliad arbennig hwn. Maen nhw wedi gwneud eu teuluoedd, eu hysgol a nhw eu hunain yn falch iawn.

“Mae cynllun cadetiaid Gwent yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng yr heddlu a phobl ifanc. Mae hefyd yn eu helpu nhw i ddatblygu eu sgiliau a hyder mewn ffordd ddifyr, llawn hwyl. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ysgol fel Trinity Fields gan fod y plant yma'n rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.

“Da iawn i'r holl gadetiaid am eu gwaith caled!”