Byddwch yn ymwybodol o sgamiau olrhain cysylltiadau

18fed Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn ategu rhybudd Llywodraeth Cymru i drigolion fod yn ymwybodol o dwyllwyr sy'n honni eu bod yn swyddogion olrhain cysylltiadau swyddogol er mwyn dwyn arian a data personol.

Dywedodd: "Yn anffodus, mae twyllwyr wedi manteisio ar y pandemig presennol gydag amryw o sgamiau'n ymwneud â Coronafeirws.

“Ni fydd swyddogion olrhain cysylltiadau swyddogol byth yn gofyn am arian, gwybodaeth ariannol, manylion banc, rhifau adnabod personol na chyfrineiriau. Byddwch yn wyliadwrus, dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru ac, os bydd rhywun yn cysylltu â chi ac yn peri pryder i chi, rhowch wybod i'r heddlu."

Mae Llywodraeth Cymru yn datgan na fydd swyddog olrhain cysylltiadau byth yn gwneud y canlynol:

  • gofyn i chi ffonio rhif ffôn cyfradd premiwm i siarad â nhw (e.e. rhai sy'n dechrau 09 neu 087)
  • gofyn i chi wneud unrhyw fath o daliad neu brynu cynnyrch o unrhyw fath
  • gofyn i chi am unrhyw fanylion am eich cyfrif banc
  • gofyn i chi am fanylion adnabod neu fanylion mewngofnodi cyfryngau cymdeithasol, na rhai'r bobl sydd yn eich cysylltiadau
  • gofyn i chi am unrhyw gyfrineiriau neu rifau adnabod personol dros y ffôn
  • datgelu unrhyw fanylion personol neu feddygol amdanoch chi wrth y bobl yn eich cysylltiadau
  • rhoi cyngor meddygol ynghylch triniaeth unrhyw symptomau COVID-19 posibl
  • gofyn i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd i'ch cyfrifiadur personol na gofyn i chi roi rheolaeth o'ch cyfrifiadur personol, ffôn clyfar neu lechen i rywun arall
  • gofyn i chi fynd at unrhyw wefan nad yw'n eiddo i'r Llywodraeth neu'r GIG.


Am ragor o fanylion, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.