Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad

9fed Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi gwneud y sylw canlynol ar ôl cyfarfod diweddaraf y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad.

Dywedodd: “Yn fy Mwrdd Strategaeth a Pherfformiad rwyf yn dwyn Heddlu Gwent i gyfrif bob tri mis am eu perfformiad mewn perthynas â'm Cynllun Heddlu a Throsedd.

"Roedd ymateb Heddlu Gwent i Covid19 yn rhan bwysig o agenda'r cyfarfod diweddar. Mae plismona pandemig yn eithriadol o gymhleth ac nid yw'r ffaith bod rheoliadau gwahanol yng Nghymru a Lloegr wedi helpu hyn .

“Mae wedi bod yn anodd cadw cydbwysedd. Serch hynny, rwyf yn dawel fy meddwl bod ymateb Heddlu Gwent, o ran edrych ar ôl lles ei staff ei hun a'i agwedd tuag at y cyhoedd, wedi bod yn glodwiw.

“Craffais hefyd ar welliannau mae Heddlu Gwent yn eu gwneud i'r gwasanaeth mae'n ei gynnig i ddioddefwyr, a'r strategaeth atal trosedd newydd ar gyfer y llu.”