Blog gwadd: Nick Lewis, Cyfarwyddwr Umbrella Cymru

18fed Chwefror 2021

Yn ôl yn 2012, gofynnwyd i mi gadeirio Grŵp Diogelwch Cyswllt Cymuned LGBTQ+ Gwent. Fforwm oedd hwn a oedd yn gwahodd pobl LGBTQ+ a oedd yn byw neu'n gweithio yng Ngwent i ymgysylltu â chynrychiolwyr yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill. Pwrpas y fforwm oedd trafod y problemau roeddent yn eu profi a'r rhwystrau roedd yn rhaid iddynt eu hwynebu i gael mynediad at wasanaethau.

Gan nad oedd llawer o bobl yn mynychu'r grŵp hwn, roeddem yn teimlo bod angen newid y pwyslais ac y dylai gael ei arwain gan gymunedau yn hytrach nag asiantaethau. A dyna a arweiniodd at sefydlu Umbrella Gwent (fel yr oedd bryd hynny). I roi prawf ar y syniad hwn, sefydlais dudalen Facebook gyda'r nod o gyfeirio pobl at wasanaethau cymorth perthnasol ac eirioli gydag asiantaethau ar ran pobl a oedd yn ei chael yn anodd cael mynediad at wasanaethau cyfiawnder troseddol a gwasanaethau cymorth.

Cafwyd ymateb enfawr i'r gwasanaeth yn gyflym iawn ac roedd yn amlwg bod bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau a oedd yn deall ac yn canolbwyntio ar rywedd ac amrywiaeth rhywiol dioddefwyr trosedd.

Sefydlwyd Umbrella Cymru (Umbrella Gwent ar y pryd) fel Sefydliad Corfforedig Elusennol yn 2015 yn dilyn nifer cynyddol o geisiadau am fwy o gymorth wyneb yn wyneb yn ogystal â gwasanaethau cyfeirio ac eirioli. Lansiwyd canolfan ddioddefwyr Connect Gwent yn yr un flwyddyn felly roedd yn gwneud synnwyr i ni fod yn rhan o'r gwasanaeth cymorth amlasiantaeth arloesol hwn yng Ngwent. Gwnaethom ymuno ag asiantaethau eraill yn y ganolfan o'r cychwyn cyntaf ac, er ein bod yn cynnig gwasanaethau rhywedd ac amrywiaeth rhywiol arbenigol ehangach yn awr, mae darparu cyngor a chymorth i bobl LGBTQ+ sydd wedi dioddef trosedd yng Ngwent yn parhau i fod yn un o'n prif feysydd gwaith.

Er bod cymdeithas wedi datblygu llawer, mae pobl LGBTQ+ yn dal i wynebu sawl her. Mae'r rhain yn cynnwys rhagfarn gymdeithasol, rhagfarn ymwybodol a diarwybod ac ofn na fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif os ydynt yn riportio mathau penodol o drosedd neu wrth gael mynediad at wasanaethau. Dyma ble gallwn ni helpu, naill ai drwy gefnogi cleientiaid yn uniongyrchol, neu drwy helpu i leihau neu ddileu rhwystrau o ran mynediad at wasanaethau eraill. Rydym yn gwybod y bydd yn well gan rai pobl ddefnyddio ein gwasanaethau ni oherwydd eu bod yn teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad â thîm o bobl sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol i ddeall rhwystrau penodol y gallant fod yn eu hwynebu, neu oherwydd eu bod yn gallu bod yn hyderus y bydd ein staff yn deall eu hunaniaeth rhywedd neu rywiol. 

Mae rhai pobl yn dod atom ni'n benodol am eu bod wedi dioddef casineb ar sail eu rhywedd neu hunaniaeth rywiol ac mae eraill yn dod atom ni am eu bod wedi dioddef troseddau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â'u hunaniaeth, ond lle mae’r profiad wedi cael effaith ar eu rhyngweithio cymdeithasol, eu hyder neu eu lles.  

Mae'r cymorth rydym yn ei gynnig wedi cael ei deilwra'n bwrpasol ar gyfer yr unigolyn. Rydym yn llunio pecyn cymorth ar gyfer yr unigolyn, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd o bwys iddo ef neu hi. Yn arferol gallai hwn gynnwys cymorth emosiynol, eiriolaeth gyda'r heddlu, neu helpu pobl i lywio'r system cyfiawnder troseddol gyda mwy o wybodaeth a chymorth ymarferol. Byddwn yn rhoi cymorth i bobl fagu cadernid a hyder i ymdrin ag unrhyw broblemau neu bryderon y gallent eu hwynebu yn y dyfodol hefyd.

Ers i Umbrella Cymru agor, rydym wedi gweld newidiadau cadarnhaol mewn plismona yng Ngwent. Mae Heddlu Gwent wedi cymryd camau brision yn y ffordd maent yn ymdrin â chasineb er enghraifft, a chafodd eu gwaith yn y maes hwn ei adnabod fel arfer effeithiol yn 2018. Yn fwy diweddar mae'r llu wedi ymrwymo i roi hyfforddiant i'w holl swyddogion rheng flaen er mwyn iddynt anelu at ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio mwy fyth ar y dioddefwr.

Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i annog pobl LGBTQ+ i riportio troseddau, adnabod a chefnogi pobl LGBTQ+ sydd wedi profi cam-drin domestig neu rywiol ac rwyf yn parhau i weithio gyda'r llu ac asiantaethau partner eraill i wella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig. Trwy'r gwaith hwn, mae Heddlu Gwent wedi talu am le i mi ar gwrs Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol, sy'n golygu y byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth a chyngor mwy arbenigol i bobl LGBTQ+ sydd wedi dioddef a goroesi trais domestig.

Ni ddylem fyth fod yn hunanfodlon; mae mwy y gallwn ei wneud. Hoffwn annog mwy o hyfforddiant yn ymwneud â rhywedd ac amrywiaeth rhywiol, yn arbennig i helpu i fagu hyder swyddogion a phobl sy'n riportio troseddau bod gwasanaethau'n briodol, bod cymorth ar gael ac y bydd swyddogion yn gwrando arnynt ac yn eu cymryd nhw o ddifrif. O ran hyfforddiant ehangach, hoffwn annog y defnydd o brofiadau mwy amrywiol i sicrhau dealltwriaeth ac i sicrhau nad yw myfyrio ar brofiadau pobl LGBTQ+ yn cael ei weld fel un cwrs ar ei ben ei hun sy'n 'ticio bocs'.

Fel bob amser, ac yn fwy nag erioed yn y cyfnod heriol sydd ohoni, mae buddsoddi mewn gwasanaethau cymorth arbenigol yn allweddol wrth sicrhau bod gwasanaethau nid yn unig ar gael, ond yn hygyrch i bawb yng Ngwent a ledled Cymru.

Os ydych wedi dioddef trosedd o ganlyniad i gasineb neu ragfarn tuag at eich rhywedd neu hunaniaeth rywiol, neu os ydych yn arddel hunaniaeth LGBTQ+ ac wedi profi unrhyw fath o drosedd yng Ngwent, cysylltwch â ni.

Gallwch ofyn am gymorth yn hawdd ar-lein www.umbrellacymru.co.uk

Ffoniwch ni ar: 0300 302 3670 neu ewch i www.umbrellacymru.co.uk/cysylltu â ni i gael ein manylion cyswllt yn llawn.  

Gallwch ein dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol hefyd ar @umbrellacymru

Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.