Blog gwadd: Esther McLaughlin, Prif Arolygydd yr Heddlu Gwirfoddol a Chyd-gysylltydd Cymru Gyfan Dinasyddion yn y Maes Plismona

2il Ebrill 2020

Heb os, Covid 19 yw'r her fwyaf i ni ei wynebu yn yr oes fodern. Mae hyn yn ddiamheuol. Fis neu ddau yn ôl, roedd llawer o fy ngwaith yn ymwneud â cheisio annog pobl i weld manteision gwirfoddoli ac i gofrestru i wirfoddoli i gynorthwyo'r gwasanaeth heddlu. Mae fy swydd wedi cael ei gwyrdroi yn sydyn iawn, ac rwy'n ymdrin â cheisiadau parhaus gan bobl yn gofyn "Sut gallai wirfoddoli? Sut gallai helpu? Beth allai wneud?”

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau cymdeithasol, rhwydweithiau cymorth a sefydliadau trydydd sector ledled Cymru dan eu sang gyda cheisiadau gan aelodau'r cyhoedd yn cynnig helpu. Mae pobl yn cofrestru yn eu miloedd i ymuno â'r gwaith o fynd i'r afael ag effaith Coronafeirws yn ein cymunedau. Mae'r ymateb hwn yn anhygoel, ac mae'n codi ein gobeithion i wybod bod cymaint o bobl yn barod i ddod at ei gilydd ar adeg lle mae cymaint o angen ar gymaint o bobl. Mae ein byd yn lle ansicr ar y funud, mae llawer o ofn a phryder, ond mae'r lefel ddigynsail hon o wirfoddoli yn rhywfaint o oleuni yn y tywyllwch. Am bob stori am hunanoldeb, colled a thrasiedi mae dwy stori arall am garedigrwydd, hunan aberth, gofal a chymorth, am bobl yn estyn llaw i bobl mewn angen. Mae'n ddarlun gobeithiol.

Mae nifer o'r bobl sy'n cynnig gwirfoddoli wedi colli incwm, swyddi, busnesau, mae rhai hyd yn oed wedi colli anwyliaid ac eto maen nhw'n dal eisiau rhoi o'u hamser i helpu pobl eraill. I ni, fel rheolwyr a threfnwyr gwirfoddolwyr, yr her yw defnyddio a manteisio i'r eithaf ar y cynnig hwn. Rydym yn cydweithio'n agos gyda'n hasiantaethau partner i wneud i hyn ddigwydd.

I'n cannoedd o wirfoddolwyr yn y gwasanaeth heddlu sydd wedi hen sefydlu, mae'r argyfwng hwn yn pwysleisio pa mor eithriadol o werthfawr ydyn nhw. Mae ymateb ein Heddlu Gwirfoddol i Covid 19 yng Ngwent a ledled Cymru wedi bod yn wych, ac ni fyddem yn disgwyl dim llai. Mae ein heddlu gwirfoddol wedi mynd yr ail filltir, yn camu i'r adwy ac ychwanegu at adnoddau lle mae eu hangen nhw fwyaf. Maen nhw'n barod i wneud mwy eto yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Nid yw hyn yn syndod, gan eu bod nhw'n dîm anhygoel sy'n achos balchder i ni bob dydd.

Mae llawer o'n gwirfoddolwyr cefnogi'r heddlu wedi gorfod atal rhai o'u gweithgareddau rheolaidd yn ystod yr argyfwng Covid 19 ond nid yw hyn wedi eu rhwystro nhw rhag gwirfoddoli. Mae llawer ohonyn nhw'n helpu sefydliadau gwirfoddol eraill ar hyn o bryd, yn cyfrannu at fentrau lleol yn eu cymunedau.

Mae ein Heddlu Bach a'r Cadetiaid Heddlu wedi gorfod atal eu cyfarfodydd a gweithgareddau rheolaidd dros dro hefyd ond maen nhw wedi bod yn gwneud beth bynnag y gallan nhw i helpu yn eu cartrefi, yn ysgrifennu llythyrau at bobl sydd wedi eu hynysu neu'n sâl trwy'r prosiect Ffrind i mi sy'n pontio'r cenedlaethau ac sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Bydd ein byd yn lle gwahanol pan ddown ni drwy'r argyfwng hwn. Bydd ein cymdeithas wedi newid am byth. Tybed a fyddwn ni'n edrych ar wirfoddoli'n wahanol ar ôl hyn i gyd? Byddwn wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith anhygoel mae gwirfoddoli wedi ei gael ar gymunedau ac ar yr unigolion sy'n ateb y galw.

Bydd effaith Covid 19 gyda ni am flynyddoedd i ddod a bydd y sector gwirfoddol yn chwarae rôl hollbwysig yn ein hadferiad ni fel cenedl. Byddwn yn parhau i recriwtio gwirfoddolwyr i'r gwasanaeth heddlu wrth i ni ddechrau dod trwy'r argyfwng hwn. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein Heddlu Gwirfoddol, i gael ein Cadetiaid allan i helpu cymunedau unwaith eto, i weithio gyda'n Heddlu Bach, ac i gael rhagor o wirfoddolwyr cefnogi'r heddlu.

Dychmygwch sut byddai ein cymunedau'n edrych petai ond chwarter o'r bobl sy'n cofrestru i wirfoddoli ar y funud yn dal ati am y tymor hir. Gobeithio y byddwn ni fel cenedl yn dod trwy hyn gyda mwy o barch tuag at wirfoddoli ac yn ei werthfawrogi'n fwy.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn eich cymuned, ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru.