Blog gwadd: Dawn Turner, cadeirydd y Cydbwyllgor Archwilio

29ain Gorffennaf 2020

Yn 2015, gwelais hysbyseb trwy’r cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn gofyn am aelodau’r cyhoedd i fod yn aelod annibynnol o Gydbwyllgor Archwilio Heddlu Gwent, sy’n cwmpasu swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent. Roedd yn amser perffaith gan fy mod i’n chwilio am rywbeth i’w wneud, ar ben fy swydd, dros fy nghymuned. Rwy’n weithiwr proffesiynol ym maes cyllid, sy’n un o’r meysydd profiad angenrheidiol at ei gilydd ar gyfer y pum aelod annibynnol o’r Cydbwyllgor Archwilio, ond nid yw’n ofynnol i bawb. Er enghraifft, mae TG, Llywodraethu, Strategaeth a Chynllunio, Rheoli Risg a Rheoli Pobl yn sgiliau a phrofiadau allweddol eraill.

Gan fy mod i wedi byw ym mhentref Magwyr ers 15 mlynedd ar y pryd, ers 20 mlynedd bellach, ac yn Nhrefynwy am 10 mlynedd cyn hynny, roedd gen i, ac mae gen i o hyd, gariad mawr at Went ac awydd i gyfrannu at ei llwyddiant economaidd. Gall troseddu gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a gall fod yn niweidiol i fusnes ac i fywydau cyffredinol y gymuned. Roeddwn i eisoes yn meddwl bod gan yr heddlu swyddogaeth bwysig yn y gymdeithas ac o ran cyfrannu at wella bywydau, ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi dysgu pa mor arwyddocaol yw hyn ac wrth gwrs pa mor heriol y mae’n gallu bod.

Fe wnes i lwyddo i ddod yn aelod annibynnol yn 2015, yna yn 2017 cefais fy mhenodi’n Ddirprwy Gadeirydd ac ym mis Mawrth 2020 yn Gadeirydd. Gallaf aros yn Gadeirydd am dair blynedd a gallaf fod yn aelod annibynnol am 10 mlynedd. Mae’r pwyllgor yn cynnwys pum aelod annibynnol ac mae aelodau allweddol Heddlu Gwent yn dod i’n cyfarfodydd, gan gynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, y Prif Gwnstabl, y Pennaeth Staff, swyddogion cyllid, yn ogystal â chynrychiolwyr archwilio allanol a mewnol. Rydym yn cwrdd o leiaf pum gwaith y flwyddyn ac yn cael hyfforddiant ar y cyd o leiaf unwaith y flwyddyn gyda’r tri heddlu arall yng Nghymru.

Ond beth ydym ni’n ei wneud, rwy’n eich clywed chi’n gofyn?

Cyfrifoldeb pwyllgorau archwilio mewn unrhyw sefydliad yw adolygu a sicrhau cywirdeb a dilysrwydd yr adroddiad blynyddol a’r datganiad ariannol. Dogfen gyhoeddedig yw hon a siop un stop sy’n crynhoi’r hyn y mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent wedi ei wneud gyda’u hadnoddau yn ystod y flwyddyn sydd newydd fod. Dogfen statudol allweddol yw hi, ond mae’n llawn gwybodaeth i’r cyhoedd. Bydd yr adroddiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y flwyddyn o fis Ebrill 2019 hyd at fis Mawrth 2020.

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu datganiadau llywodraethu Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent. Mae’n hanfodol bod y datganiadau hyn yn ddogfennau gweithredol a chyfredol, sydd, yn ogystal â disgrifio sut y goruchwylir ac y rheolir gweithrediadau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent, yn disgrifio’r canlyniadau y mae hyn yn eu cyflawni a’r risgiau sy’n cael eu rheoli hefyd. Eleni, yn amlwg, bydd y datganiad llywodraethu’n cynnwys sut y mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent wedi ymateb i COVID-19, sut y byddant yn parhau i ymateb iddo, a swyddogaeth yr heddlu wrth reoli risgiau i’r cyhoedd ac yn yr heddlu. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r archwilwyr allanol ar hyn.

Hefyd, rydym yn cyhoeddi adroddiad gan y Cyd-bwyllgor Archwilio sydd, yn ogystal ag adolygu’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn flaenorol, yn nodi meysydd ffocws i’r Cyd-bwyllgor Archwilio ar gyfer y flwyddyn i ddod hefyd. Mae’n cael ei adrodd yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl, gan roi sicrwydd iddynt, ar sail yr wybodaeth y mae’r Cyd-bwyllgor Archwilio wedi ei chael, fod popeth yn iawn o ran eu trefniadau rheoli mewnol. Mae’r meysydd ffocws yn cynnwys agweddau ar Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent lle’r ydym yn ymgymryd â dadansoddiad cynhwysfawr o weithgareddau ein heddlu i ddeall eu heriau a’u llwyddiannau, ac yn cwmpasu meysydd sy’n cynnwys systemau adfer yn sgil trychineb a masnachu pobl.

Rydym yn gweithio’n agos gydag archwilwyr mewnol hefyd. Rydym yn cytuno ar gynllun archwilio sy’n canolbwyntio ar y meysydd risg allweddol bob blwyddyn ac mae’r archwilwyr mewnol yn edrych ar sut y mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn perfformio yn y meysydd hyn. Ein swyddogaeth ni yw adolygu pa mor effeithiol yw Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent, y camau a gymerir i reoli risgiau, effeithiau ar y gyllideb a gwerth am arian. Rydym yno i gael sicrwydd bod Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn dilyn eu strategaethau a’u polisïau’n briodol, neu eu bod yn cymryd camau i newid eu dulliau i wella a/neu wynebu heriau newydd. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal archwiliadau sy’n fwy cydweithredol gyda’r tri heddlu arall yng Nghymru, ac mae hyn yn creu rhagor o gyfleoedd ar gyfer gwella a gwerth am arian.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld sut y mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent wedi ymateb i ofynion newydd. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys:

  • Y twf mewn seiberdrosedd; ail-hyfforddi a recriwtio swyddogion heddlu â sgiliau technoleg newydd.
  • Troseddu cyfundrefnol; nid melltith Llundain a dinasoedd mawr eraill yw hyn mwyach, mae wedi lledaenu ledled y DU, ac mae’n fwy o ran maint ac yn fwy peryglus – mae heddlu medrus, technoleg a chydweithrediad rhyngwladol yn allweddol.
  • Llai o arian oddi wrth y llywodraeth ganolog; datblygu rhaglenni buddsoddi i arbed, gwella sut y gwneir pethau ac arbed miliynau o bunnoedd.
  • Atal troseddu; cydweithredu â sefydliadau’r sector cyhoeddus er mwyn cefnogi pobl sy’n agored i niwed a chreu amgylcheddau cadarnhaol.
  • Cyfathrebu; mae tryloywder yn allweddol, cynyddu’r data a gesglir er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth o sut y mae’r heddlu’n gweithio a sut y gall wella, heb orlethu â rhagor o waith papur.

Yn bwysig i mi, drwy ein rhyngweithio uniongyrchol â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent, ein harchwiliadau allanol a mewnol a’n dirnadaeth yn sgil dadansoddiadau cynhwysfawr, mae’r Cyd-bwyllgor Archwilio yn gallu rhoi cymorth, cyngor ac awgrymiadau ar ddatblygu camau gweithredu a datblygu meysydd gwaith i wella ein trefniadau llywodraethu. Mae hyn wedi galluogi datblygiad Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd sy’n rhywbeth y mae’r Cyd-bwyllgor Archwilio wedi ymdrechu i’w wneud ac a fydd yn helpu i wella tryloywder y meysydd y mae angen eu gwella. Elfen arall o’r cymorth a ddarperir gennym yw’r gwaith o ddyrannu swyddogaethau arwain sy’n cyd-fynd â maes arbenigedd pob aelod o’r Cyd-bwyllgor Archwilio.

Er enghraifft, daeth Janet Wademan, ein haelod annibynnol diweddaraf ar y Cyd-bwyllgor Archwilio, â gwybodaeth TG ardderchog ac mae hi wedi cefnogi’r gwaith adfer yn sgil trychineb. Rwy’n falch o ddweud bod ein swyddogaeth yn llawer mwy na chadw llygad ar yr hyn y mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl yn ei wneud.

Mae’n fraint i mi allu cael dirnadaeth ddofn o’r hyn y mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent yn ei wneud, ac rwy’n gweld heddlu sy’n gwybod eu bod yn wynebu heriau ac yn ymateb iddynt, sy’n hynod uchelgeisiol o ran gwella’n barhaus ac sy’n amlwg wedi ymrwymo i ddiogelu’r cyhoedd ac atal troseddu.

Wrth edrych i’r dyfodol, y newyddion da yw bod rhagor o arian ar gael ar gyfer gweithlu mwy, ond ceir gofynion newydd hefyd. Mae COVID-19 yn ofyniad uniongyrchol. Bydd y Cyd-bwyllgor Archwilio yn parhau i geisio cael sicrwydd ar ran holl drigolion Gwent bod risgiau’n cael eu rheoli a bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n dda.