Beicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon

6ed Ebrill 2022

Es i ymweld â Blaenafon yr wythnos hon i gwrdd â swyddogion y cyngor a ddangosodd yr ardaloedd o fewn y Safle Treftadaeth y Byd sy’n cael eu difrodi’n wael gan feicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon.

Mae’n druenus gweld y tirlun bendigedig hwn, a oedd mor bwysig i’r Chwyldro Diwydiannol, yn cael ei erydu gan leiafrif o feicwyr oddi ar y ffordd nad ydynt yn deall effaith ehangach eu gweithredoedd.   

Mae defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn niweidio cefn gwlad ledled Gwent.

Mae’n anafu, achosi gofid a hyd yn oed marwolaeth i anifeiliaid sy’n pori. Ynghyd ag ymddygiad bygythiol gan rai reidwyr, mae hyn yn ei gwneud yn anhygoel o anodd i ffermwyr edrych ar ôl eu hanifeiliaid yn iawn ac mae’n difrodi eu bywoliaeth.

Ar ben hyn, mae’n achosi difrod amgylcheddol i gynefinoedd anifeiliaid gwyllt, llwybrau cerdded a beicio, a mwy o risg o lifogydd wrth i amddiffynfeydd naturiol gael eu dinistrio.

Ac nid dyna ddiwedd y broblem. Mae llawer o’r cerbydau hyn yn cael eu gyrru heb yswiriant, heb dreth ac ni ddylid eu gyrru nhw ar y ffyrdd, sy’n golygu bod defnyddwyr arferol y ffyrdd a cherddwyr yn cael eu rhoi mewn perygl hefyd.

Mae’n drosedd anodd iawn i’w phlismona. Mae ein hardaloedd cefn gwlad yn eang ac mae pwerau’r heddlu i gymryd unrhyw fath o gamau ataliol yn gyfyngedig.

Serch hynny, mae Heddlu Gwent wedi ymroi i fynd i’r afael â’r broblem hon ac maen nhw wedi atafaelu dros 135 o gerbydau oddi ar y ffordd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae perchnogion wedi cael eu rhybuddio ac wedi gorfod talu i gael eu cerbydau yn ôl ac, mewn achosion lle nad oes prawf o berchnogaeth neu yswiriant, neu lle mae’r cerbyd yn anaddas i’w ddefnyddio ar y ffordd, mae’r cerbydau wedi cael eu mathru.

Er mwyn i’r heddlu allu cymryd camau effeithiol mae angen i bobl riportio’r problemau hyn. Os ydych chi’n amau bod rhywun yn defnyddio beic oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Heddlu Gwent drwy ffonio 101, neu ar dudalen Facebook a Twitter Heddlu Gwent.  Gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers hefyd ar 0800 555 111.

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.