Arolygiad yn canfod bod Heddlu Gwent wedi ymroi i amddiffyn plant

28ain Mehefin 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (Y Comisiynydd), Jeff Cuthbert, wedi canmol Heddlu Gwent ar ei arferion amddiffyn plant yn dilyn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS).

Mae'r adroddiad, sy'n rhoi adborth ar arolwg HMICFRS o Heddlu Gwent ym mis Chwefror, yn canmol y gwasanaeth am ei ymrwymiad cadarn i ddiogelu pobl fregus a rhoi blaenoriaeth i les ei staff, yn arbennig y rhai sy'n gweithio yn y maes amddiffyn plant.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau yn un o'n prif flaenoriaethau ac rwy'n hynod o falch o'r gwaith mae Heddlu Gwent yn ei wneud i ddiogelu plant rhag cam-drin, cam-fanteisio a niwed.

“Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhoi 'Ymgyrch Encompass' ar waith i gefnogi plant sy'n profi cam-drin domestig a'n Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth, sy'n dwyn partneriaid ynghyd i ddiogelu ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Rwy'n cydnabod y bydd rhaid rhoi sylw i rai argymhellion ar gyfer gwella gan HMICFRS, yn ymwneud yn bennaf â gwella cyfathrebu gyda phlant sydd wedi bod yn dyst i drosedd a gwella ein prosesau mewnol i sicrhau bod plant yn gallu derbyn cymorth mor gynnar â phosibl.

"Mae Heddlu Gwent eisoes wedi dechrau gweithredu yn sgil rhai o'r argymhellion hyn a byddaf yn parhau i fonitro cynnydd er mwyn sicrhau bod y bobl fwyaf bregus yng Ngwent yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl."

Dywedodd Pennaeth CID a Gwasanaethau Gwarchod Heddlu Gwent, Prif Uwch-arolygydd Nicky Brain: "Mae Heddlu Gwent wedi ymroi i amddiffyn pobl fregus, gan gynnwys plant, ac rydym yn gweithio'n galed i wella'r ffordd rydym yn rheoli risg ac amddiffyn, cefnogi a diogelu plant yn ddigonol trwy weithio'n agos gyda'n partneriaid yn y meysydd gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd.

"Er bod Heddlu Gwent wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y ffordd rydym yn ymateb i amddiffyn plant yn y blynyddoedd diwethaf, rydym yn cymryd yr argymhellion o ddifrif ac mae cynlluniau ar waith i roi sylw i'r pryderon hyn."

Ychwanegodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jon Edwards: "Rydym yn croesawu canfyddiadau'r adroddiad pwysig hwn. Mae'n galonogol nodi bod yr arolygwyr wedi cydnabod bod uwch arweinwyr, y Comisiynydd a staff rheng flaen wedi ymroi yn amlwg i amddiffyn pobl fregus, gan gynnwys plant. Mae gennym gynlluniau ar waith eisoes i roi sylw i'r argymhellion a amlinellwyd ac mae'r adroddiad yn cydnabod y gwaith parhaus rydym yn ei wneud i ateb y galw parhaol yn y maes hwn. Hoffwn sicrhau cymunedau Gwent ein bod wedi ymroi i amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas a sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl."

Gellir gweld yr adroddiad llawn ar-lein ar wefan www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/wp-content/uploads/gwent-national-child-protection-inspection.pdf