Amser o hyd i ddweud eich dweud ar gyllid yr heddlu yng Ngwent

2il Ionawr 2024

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn i drigolion am eu barn ar gyllid yr heddlu a materion eraill sy'n ymwneud â phlismona.

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sy’n gyfrifol am bennu y swm y mae preswylwyr yn ei dalu tuag at blismona bob mis. Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £181 miliwn yn dod o'r dreth gyngor leol.

Er mwyn gwneud y penderfyniad hwn, rhaid i'r Comisiynydd ystyried faint o arian y mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU, cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a fforddiadwyedd ar gyfer pobl leol.

I ddweud eich dweud cyn i'r arolwg gau Ddydd Sul 7 Ionawr, ewch i https://bit.ly/GwentPoliceBudget24

Mae’r arolwg ar gael ar fformatau eraill ar gais gan swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu drwy e-bostio commissioner@gwent.police.uk neu ffonio 01633 642200.