Addewid i Ddileu Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

31ain Ionawr 2018

Heddiw (dydd Mercher 31 Ionawr), bu Aelod Cynulliad Joyce Watson a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn annog partneriaid a ffigyrau gwleidyddol amlwg yng Nghymru i gymryd camau gweithredu cadarnhaol ac addo eu hymrwymiad i wneud popeth o fewn eu pwerau i ddileu caethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

Noddwyd y digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd gan Joyce Watson AC sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert. Trefnwyd y digwyddiad codi ymwybyddiaeth hwn i edrych ar sut gall partneriaid gydweithio i atal y troseddau erchyll hyn rhag digwydd yng Nghymru a darparu llwyfan ar gyfer newid. Llofnodwyd addewid gan y rhai a oedd yn bresennol, yn tynnu sylw at eu hymrwymiad i ddileu caethwasiaeth fodern a masnachu pobl a buont yn trafod sut y gallant ddefnyddio dull cyfunol i ddarparu cymorth a lleihau’r effaith hirdymor ar y rhai sydd yn anffodus wedi bod yn ddioddefwyr.

Gan ddefnyddio’r digwyddiad fel llwyfan ar gyfer newid, dywedodd noddwr y digwyddiad, Joyce Watson AC: “Roedd yn fraint cael noddi’r digwyddiad hwn. Yn 2010 cyhoeddais adroddiad ar Fasnachu Pobl yng Nghymru, ‘Knowing No Boundaries’. Ar yr adeg honno, nid oedd fawr o wybodaeth am ehangder achosion o fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yng Nghymru - nid oedd pobl yn ymwybodol ohonynt. Diolch i’r drefn, nid yw hynny’n wir heddiw. Rydym yn ymwybodol yn awr y gallwn ddod i gysylltiad â phobl sy’n ddioddefwyr yn ein gweithgareddau bob dydd, a dyna pam y mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth.”

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert yn cynrychioli pob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar Grŵp Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar ffyrdd i fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y digwyddiad, dywedodd Mr Cuthbert: “Mae mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn faes y mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn benderfynol o’i yrru yn ei flaen gyda’n partneriaid yn lleol ac yn genedlaethol. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau nad yw pobl yn cael eu hecsbloetio ac ni all unrhyw sefydliad unigol fynd i’r afael â’r broblem hon a’i dileu yn effeithiol ar ei ben ei hun. Fy ngobaith yw y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth ledled ein cymunedau a sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr y troseddau erchyll hyn yn derbyn y cymorth priodol y mae ei angen mor daer arnynt.”

Mae BAWSO yn sefydliad sy’n gweithio dros Gymru gyfan yn darparu gwasanaethau arbenigol i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drais a cham-drin domestig gan gynnwys priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod a masnachu pobl.

Dywedodd Prif Weithredwr BAWSO, Mutale Merrill OBE: “Nid oes gan lawer o bobl fawr ddim gwybodaeth am fasnachu pobl ac eto mae’n cynyddu ac mae’n fater y mae angen i bob un ohonom fel cymdeithas fod yn ymwybodol ohono. Mae masnachu pobl yn difa bywydau ac yn difrodi unigolion, cymunedau, yr economi a’r gymdeithas ehangach. Ochr yn ochr â chefnogi pobl mewn sefyllfa argyfyngus, mae BAWSO yn gwneud gwaith hirdymor i ddarparu cymorth emosiynol trwy gwnsela, eiriolaeth, arweiniad ar iechyd, ac addysg.”

Dywedodd Julian Williams, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent: “Y realiti anghyfforddus yw nad yw caethwasiaeth fodern yn broblem sydd wedi ei chyfyngu i wledydd eraill, mae yma ar garreg ein drws. Problem sylweddol sy’n ein hwynebu gyda’r drosedd hon yw nad yw pobl yn aml iawn yn sylweddoli eu bod yn ddioddefwyr. Hoffwn annog unrhyw un sy’n amau y gall rhywun fod yn ddioddefwr i gysylltu â ni ar 101 neu’n ddienw trwy gyfrwng Crimestoppers ar 0800 555 111.”

Ymysg y cynrychiolwyr yn y digwyddiad roedd nifer o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru, cynrychiolwyr y Swyddfa Gartref, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, arbenigwyr diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Cafodd y seminar ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio #ModernSlavery18 ar gyfer twitter.