£674,000 ar gyfer Gwent Mwy Diogel

3ydd Mai 2018

Mae wyth o wasanaethau yng Ngwent sy’n ceisio naill ai mynd i’r afael â materion yn ymwneud â diogelwch cymunedol, atal troseddu neu fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhannu ymron i £674,000 a ddyfarnwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert.

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert sy’n gyfrifol am gomisiynu a datblygu gwasanaethau sy’n cyflawni mewn perthynas â blaenoriaethau diogelwch cymunedol yng Ngwent. Caiff y rhain eu cyflawni ar y cyd â phartneriaid diogelwch cymunedol allweddol eraill sy’n rhan o’r grŵp Gwent Mwy Diogel.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert wedi dyfarnu £673,664 i wyth rhaglen ac ymgyrch yng Ngwent sy’n ceisio mynd i’r afael â phroblemau diogelwch cymunedol dwfn a rhoi cymorth i ddioddefwyr ac sydd wedi profi i gael effaith gadarnhaol ar atal troseddu a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw’n cefnogi gwaith nifer sylweddol o bartneriaid, sy’n gweithio yn y pum awdurdod lleol yng Ngwent (rhestr lawn o’r dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad).

Mae £28,000 o’r arian wedi ei ddyfarnu i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru er mwyn iddo barhau ei brosiect llwyddiannus Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Thanau Bwriadol, a gafodd gefnogaeth gan grŵp Gwent Mwy Diogel yn 2017. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2017/18), mae’r prosiect wedi darparu ymyrraeth addysgol i 33 o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled ardal Heddlu Gwent, a arweiniodd at gyflwyno gwybodaeth i 7,368 o ddisgyblion ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gosod tanau bwriadol, troseddau’n ymwneud â cherbydau a chamddefnyddio sgwteri a beiciau modur. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad 24% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a gostyngiad 26% mewn tanau bwriadol yn ardal Gwent. Mae 76% o’r galwadau y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ymateb iddynt bob blwyddyn yn achosion o danau sydd wedi cael eu cynnau’n fwriadol. Bydd y prosiect hwn yn parhau i ymgysylltu â phobl ifanc mewn cymunedau ar draws Gwent i leihau nifer yr achosion o danau bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig, fel ymosodiadau ar ddiffoddwyr tân a galwadau ffug. Yn ogystal, bydd y prosiect yn edrych ar feysydd ychwanegol gan gynnwys Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Thriwantiaeth.

Dywedodd Matt Jones, Pennaeth Uned Troseddau Tân a Diogelwch a Lles Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei fod wrth ei fodd i dderbyn y cyllid: “Mae’r gwaith partner yn ardal Gwent yn dilyn cefnogaeth barhaus grŵp Gwent Mwy Diogel wedi arwain at ostyngiadau sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a gosod tanau bwriadol. Mae cydweithio a rhannu lleoliad wedi ein galluogi ni i ymdrin â phroblemau cymunedol a rhoi sylw i’r problemau mae ein cymunedau’n teimlo sydd o bwys iddynt. Mae’r gefnogaeth gan grŵp Gwent Mwy Diogel wedi ein galluogi ni i ddefnyddio dull sy’n cael ei weld fel un arloesol ar draws y DU.”

Ymysg y gwasanaethau eraill a dderbyniodd gyllid mae:

  • £151,809 i Wasanaeth Eiriolwyr Annibynnol Rhanbarthol Gwent ar Drais Domestig er mwyn iddo allu parhau i roi sylw i ddiogelwch dioddefwyr sydd mewn perygl mawr o gam-drin domestig ar draws holl ardaloedd rhanbarth Gwent trwy ganolfannau amlasiantaeth a fydd yn cael cymorth gan dîm o Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig. Yn dilyn y gwaith sydd wedi ei wneud eisoes, mae gwelliannau wedi dangos effeithiau cadarnhaol o ran sicrhau bod dioddefwyr yn fwy gwydn ac yn derbyn gwasanaeth mwy prydlon. Mae hyn yn lleihau peryglon ac yn rhoi cymorth iddynt yn gynharach;
  • £110,795 i’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ar gyfer tri gweithiwr penodol i weithio gyda dioddefwyr er mwyn parhau i gefnogi meysydd hollbwysig o waith y gwasanaeth troseddau ieuenctid a gwella a chynnal y gwaith o ddarparu gwasanaeth ledled Gwent. Y nod yw atal pobl ifanc sy’n dod i mewn am y tro cyntaf ac arallgyfeirio plant a phobl ifanc oddi wrth y System Cyfiawnder Ieuenctid, lleihau troseddu ac ail droseddu gan blant a phobl ifanc a darparu mynediad at wasanaethau asesu a thrin arbenigol i fynd i’r afael â chamddefnydd sylweddau gan blant a phobl ifanc; a
  • £141,000 i gynnal y rhaglen Dyfodol Cadarnhaol, rhaglen gynhwysiant cymdeithasol sy’n defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i arallgyfeirio pobl ifanc oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae ymron i 10,000 o unigolion yn ardal Gwent yn ymgysylltu â’r rhaglen bob blwyddyn ac mae’r heddlu wedi nodi lleihad sylweddol mewn digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd lle mae’r rhaglen ar waith. Trwy ddarparu sesiynau chwaraeon mewn ardaloedd o angen ar amseroedd priodol i ymgysylltu â phobl ifanc a’u harallgyfeirio, mae’r rhaglen yn galluogi pobl ifanc i gyrraedd goliau, boed yn gymwysterau nau’n gyflawniadau personol. Mae hefyd yn darparu amgylcheddau ymgysylltu a dysgu cyfforddus i’r bobl ifanc hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi’r gwasanaethau, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Dim ond trwy gydweithio cadarn gyda’n partneriaid a thrwy roi anghenion yr unigolyn wrth wraidd popeth a wnawn ni y gallwn sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl i’n dinasyddion. Rwyf yn falch fy mod yn gallu cefnogi amrywiaeth eang o wasanaethau heddiw a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau diogelwch cymunedol mwyaf dwfn yng Ngwent. Bydd y cyllid hwn yn gwella ein trefniadau gwaith partner presennol, yn cefnogi blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ac yn gwneud cyfraniad mawr tuag at wneud Gwent yn fwy diogel.

Rhestr lawn o brosiectau a dderbyniodd gyllid.