Cyllideb 2019-20

Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2019/20

Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2019/20 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.

Cyllideb 2019/20 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 

Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2019/20 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:

  1. Gofyniad cyllideb o £130,355,726 ar gyfer 2019/20;
  2. Arbedion arfaethedig o £0.791 miliwn yn 2019/20 ac arbedion arfaethedig pellach o £1.137 miliwn (cyfanswm o £1.928 miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
  3. Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 6)
  4. Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 7a a 7b; a
  5. Praesept arfaethedig ar gyfer 2019/20 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £56,042,426 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £255.53) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:

Awdurdodau Unedol

£

Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£)

Blaenau Gwent

 5,158,425

20,187.16

Caerffili

15,378,807

60,183.96

Sir Fynwy

11,778,980

46,096.27

Casnewydd

15,118,686

59,165.99

Torfaen

8,607,528

33,685.00

Cyfanswm

56,042,426

219,318.38

Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:

Band Treth y Cyngor

£

A

170.35

B

198.75

C

227.14

D

255.53

E

312.31

F

369.10

G

425.88

H

511.06

I

596.24

 

Atodiad
Atodiadau

Adroddiad y Panel Heddlu a Throseddu

Adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu