Cyllideb 2018-19

Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2018/19 

Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2018/19 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.

Cyllideb 2018/19 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2018/19 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:

  1. Gofyniad cyllideb o £123,522,220 ar gyfer 2018/19
  2. Arbedion arfaethedig o £0.183 miliwn yn 2018/19 ac arbedion arfaethedig pellach o £5.865 miliwn (cyfanswm o £6.048 miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 4b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
  3. Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 5)
  4. Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 6a a 6b; a
  5. Praesept arfaethedig ar gyfer 2018/19 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £52,035,431 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £238.84) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:

Awdurdodau Unedol

£

Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£)

Blaenau Gwent

4,819,779

20,179.95

Caerffili

14,317,027

59,944.01

Sir Fynwy

10,959,854

45,887.85

Casnewydd

13,963,903

58,465.51

Torfaen

7,974,868

33,390.00

Cyfanswm

52,035,431

 

 

Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:

Band Treth y Cyngor

 

A

159.23

B

185.76

C

212.30

D

238.84

E

291.92

F

344.99

G

398.07

H

477.68

I

557.29

Atodiad

Atodiadau

Adroddiad y Panel Heddlu a Throseddu

Response to Police and Crime Commissioner regarding the Proposed Precept for 2018/19 (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Response to Police and Crime Panel Precept Recommendation 2018/19 (Saesneg yn unig)

Decision Log Approving the Budget for 2018/19 (Saesneg yn unig)