Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i gofnodi penderfyniad am ddyraniad cyllid o Gronfa Ymgysylltu Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Reference Number: PCCG-2025-033
Date Added: Dydd Gwener, 20 Mawrth 2026
Details:
Rhoddwyd cyllid i nifer o brosiectau yn ystod 2025/26, a gellir dod o hyd i restr ohonynt yn Atodiad 1. Mae'r grantiau hyn wedi cael eu dosbarthu trwy gydol y flwyddyn.
Mae Rhif Penderfyniad PCCG-2025-013 yn cyfeirio at gymeradwyo un grant unigol ar gyfer Pride in the Port a chafodd ei adolygu ar wahân gan y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cyllid oherwydd datganiad o fuddiant gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Fodd bynnag, mae hwn wedi ei gynnwys yn y rhestr gyffredinol yn Atodiad 1 o'r holl grantiau blynyddol a ddyfarnwyd yn ystod 2025/26 o'r Gronfa hon