Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa’r Comisiynydd) i Bartneriaid Diogelwch Cymunedol o'r Gronfa Gaeaf o Weithredu Ymgyrch Strydoedd Saffach yng nghyllideb 2025/26 Swyddfa'r Comisiynydd.
Reference Number: PCCG-2025-027
Date Added: Dydd Gwener, 6 Chwefror 2026
Details:
Er mwyn monitro'r cyllid a ddyfarnwyd a rhoi sicrwydd bod y cyllid a ddyfarnwyd yn bodloni Cronfa Ymgyrchoedd Strydoedd Saffach, fel yr amlinellir yn y Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, mae'n rhaid i bartneriaid gyflwyno eu hadroddiad/dogfennaeth diwedd prosiect er mwyn i Swyddfa'r Comisiynydd ei adolygu. Gall hyn olygu ymweliad safle hefyd.
Bydd gofyn i bartneriaid dderbyn y telerau ac amodau uchod, trwy lofnodi a dychwelyd dogfennaeth berthnasol Swyddfa'r Comisiynydd.