Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i sefydliadau partner allanol i ddarparu ymyraethau peilot trais difrifol a throseddau trefnedig fel rhan o'r Prosiect Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig yn ystod 2020/21 - cyfanswm o £401,412.

Reference Number: PCCG-2020-006

Date Added: Dydd Sadwrn, 16 Mai 2020

Details:

Mae cyllid wedi cael ei ddyfarnu i'r sefydliadau canlynol: Barnardo’s - £207,500 I ddarparu ymyrraeth gynnar ar ffurf cymorth un i un i bobl ifanc 10 - 14 oed (a'u teuluoedd) sydd ar ymylon ymddygiad treisgar neu droseddol i'w hatal rhag ymwneud â throseddau difrifol a threfnedig. St Giles Trust - £123,794 Darparu ymyrraeth un i un brys i bobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ymwneud â thrais difrifol a throseddau trefnedig; a darparu rhaglen 'Fearless' mewn ysgolion ar y cyd â Crimestoppers. Crimestoppers - £40,851 Darparu rhaglen 'Fearless' i ddisgyblion Blwyddyn 7 mewn sefydliadau addysgol ar y cyd â St Giles Trust; a rhoi cymorth wedi'i dargedu i ysgolion mewn ardaloedd lle mae trais difrifol neu droseddau trefnedig yn broblem. Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - £29,267 I barhau i gyflogi Trefnydd Trais Difrifol tan 31 Mawrth 2021.

Attachments: