Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo’r Polisi a’r Weithdrefn Nawdd ar y Cyd gyda Heddlu Gwent.

Reference Number: PCCG-2018-039

Date Added: Dydd Gwener, 21 Medi 2018

Details:

Nod y polisi hwn a'r weithdrefn hon yw: a) Sefydlu a chynnal dull corfforaethol a moesegol cyson wrth ymdrin â noddwyr a rhoddwyr; b) Sicrhau bod y Sefydliad yn bodloni'r holl ofynion cyfreithiol a gofynion y polisi; c) Gwella pob adnodd sydd ar gael i gefnogi gweithgareddau plismona a lleihau trosedd; a d) Sicrhau bod uniondeb yn cael ei gynnal yn helaeth gan y Sefydliad wrth dderbyn nawdd. Bydd y Sefydliad yn derbyn nawdd ar ffurf arian, nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwella, neu ategu at effeithiolrwydd gweithredol y Sefydliad. Bydd derbyn y rhain yn amodol ar graffu llym a chydymffurfiaeth â nifer o ofynion penodol.

Attachments: