Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi cyllid pellach i Umbrella Cymru er mwyn iddo barhau i ddarparu gwasanaeth dros dro i blant a phobl ifanc sy'n ddioddefwyr o fewn Connect Gwent.

Reference Number: PCCG-2018-029

Date Added: Dydd Iau, 21 Mehefin 2018

Details:

Mae'r ddarpariaeth o wasanaethau dioddefwyr i blant a phobl ifanc yn cael ei ehangu a'i wella ac fel y cyfryw mae proses dendro newydd yn cael ei datblygu. Bu oedi wrth symud y broses dendro ymlaen ac felly bydd Umbrella Cymru'n darparu'r gwasanaeth am gyfnod pellach o bedwar mis o 10 Gorffennaf 2018 am gost o £12,000. Mae'r cynnydd yn y gost oherwydd bod y swyddi presennol yn cael eu hymestyn, sy'n adlewyrchiad o'u llwyddiant.

Attachments: