Ymgyrch ar draws Cymru yn mynd i'r afael â masnachu

12fed Mawrth 2020

Heddiw, lansiwyd ymgyrch newydd a gynlluniwyd er mwyn mynd i'r afael â masnachu a chamfanteisio yng Nghymru.

Mae elusen Crimestoppers yn gofyn i bobl gadw golwg am weithgareddau amheus, gan gyfleu'r hyn y maent yn ei wybod am gaethwasiaeth fodern. Mae'r ymgyrch hwn yn amlygu masnachu pobl, cyffuriau ac arfau ar draws arfordir a ffiniau Cymru, yn ogystal â chamfanteisio'n rhywiol ar fenywod sy'n cael eu masnachu.

Bydd yr ymgyrch digidol wyth wythnos, a gefnogir gan bedwar comisiynydd yr heddlu a throseddu Cymru ac asiantaethau partner atal caethwasiaeth, yn annog y cyhoedd i gadw golwg am arwyddion masnachu ar hyd yr arfordir, ynghyd ag unrhyw achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar bobl agored i niwed mewn trefi a dinasoedd. Mae Crimestoppers yn addo y bydd unrhyw sy'n cysylltu â nhw yn gallu gwneud hynny mewn ffordd ddienw.

Y llynedd, stopiwyd llong bleser oddi ar arfordir Gorllewin Cymru, a oedd yn cario cocên a oedd yn werth £60 miliwn ar y stryd, ac mae'r ymgyrch yn gobeithio atal gangiau rhag defnyddio Cymru er mwyn masnachu pobl a nwyddau anghyfreithlon.

Dywedodd Rheolwr Cymru Crimestoppers, Ella Rabaiotti: “O'n harfordiroedd ac i'n trefi a'n cymoedd, rydym yn dymuno mynd i'r afael â masnachu a chamfanteisio. Mae gangiau troseddol yn masnachu pobl a chyffuriau i Gymru mewn ffordd eofn, ac yn camfanteisio arnynt i gario cyffuriau neu eu gorfodi i buteinio. Gall eich gwybodaeth ddienw chi helpu i stopio hyn.

“Fel elusen, rydym yn ymdrechu i roi'r cyfle i bawb godi eu llais am droseddu ac rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl sydd â gwybodaeth am fasnachu a chamfanteisio. Mae'ch gwybodaeth ddienw chi yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn ddiogel, gan gadw cyffuriau ac arfau oddi ar ein strydoedd.”

Mae pedwar comisiynydd yr heddlu a throseddu Cymru - Jeff Cuthbert, Arfon Jones, Dafydd Llywelyn ac Alun Michael – yn unedig yn eu safiad yn erbyn caethwasiaeth, ac maent yn cefnogi'r ymgyrch hwn, gan ddatgan ar y cyd:

“Mae rhoi terfyn ar gaethwasiaeth yn flaenoriaeth fawr i ni ar draws Cymru. Mae gangiau troseddol yn ein gwlad ac ar draws ffiniau yn masnachu pobl, cyffuriau Dosbarth A ac arfau. Mae'r troseddwyr sy'n ymwneud â masnachu yn fygythiad go iawn i'n cymunedau ac nid yw Cymru wedi'i heithrio o'u gweithgareddau wedi'u targedu. Rydym yn gwybod bod y cyhoedd yn aml yn meddu ar wybodaeth y byddai'n well ganddynt ei rhannu mewn ffordd ddienw. Rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i gefnogi ymgyrch elusen Crimestoppers, gan gyfleu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt, waeth pa mor fach ydyw, er mwyn atal y troseddwyr cyfundrefnol hyn a chadw Cymru yn rhydd rhag caethwasiaeth.

Ychwanegodd Ella Rabaiotti “Derbyniodd Crimestoppers dros 1400 darn o wybodaeth am gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl y llynedd, ac mae'n haddewid ni bod pobl yn gallu adrodd gwybodaeth i ni mewn ffordd ddienw yn allweddol wrth helpu pobl i wneud hynny.

“Os byddwch yn gweld rhywun yn ymddwyn mewn ffordd amheus ar hyd ein harfordir neu yn ein porthladdoedd, gallwch gyfleu'r wybodaeth i Crimestoppers mewn ffordd hollol ddienw. Gallai darn bach o wybodaeth fod yn hanfodol – megis disgrifiadau o gerbydau a chychod. Neu efallai eich bod yn gofidio bod rhywun yn cael eu masnachu er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol a'u bod yn cael eu gorfodi i buteinio. Dywedwch yr hyn yr ydych yn ei wybod i Crimestoppers mewn ffordd ddienw trwy ffonio 0800 555 111 neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ddienw trwy droi at Crimestoppers-uk.org.”

I gael gwybod mwy am yr ymgyrch newydd ac er mwyn dysgu sut i adnabod yr arwyddion a chodi eich llais, trowch at http://bit.ly/39GbEbw_