Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn nodi Diwrnod Stephen Lawrence

22ain Ebrill 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi siarad i nodi Diwrnod Stephen Lawrence am yr ail flwyddyn.

Ebrill 22 yw Diwrnod Stephen Lawrence ac mae'n coffáu'r gŵr ifanc o dde ddwyrain Llundain a gafodd ei lofruddio mewn ymosodiad hiliol ym 1993.

Arweiniodd Adroddiad Macpherson, adolygiad o’r ffordd y cafodd yr achos ei drin gan yr heddlu, at newidiadau mawr mewn plismona yn y DU.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: “Roedd Stephen Lawrence yn ŵr ifanc diniwed a chafodd ei farwolaeth giaidd ar 22 Ebrill 1993 effaith ysgytiol ar draws y byd.

"Roedd y ffordd y cafodd yr achos hwn ei drin gan yr Heddlu Metropolitanaidd ar yr adeg honno yn warthus. Datgelodd Adroddiad Macpherson rwydwaith o lygredd a arweiniodd at newidiadau mawr mewn plismona trwy'r DU gyfan.

"Diolch i'r drefn, oherwydd Stepen, mae plismona a gwasanaethau cyhoeddus eraill wedi symud ymlaen llawer ers hynny. Rwyf yn falch ein bod ni'n cymryd camau difrifol yma yng Ngwent i wella cydlyniant cymunedol, a sicrhau bod ein swyddogion a staff heddlu'n gynrychioliadol o'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu."