Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb

16eg Hydref 2023

Yr wythnos yma rydym yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb sy'n canolbwyntio eleni ar droseddau ar sail crefydd.

Mae ffydd wedi chwarae rhan allweddol yn hanes Cymru. Mae wedi helpu i lunio a symboleiddio'r gwerthoedd diwylliannol rydym yn eu rhannu, megis gwaith caled, ysbryd cymunedol ac agwedd arloesol a chadarnhaol.

Mae archwilio sut mae crefyddau a ffydd yn ein cymunedau yn cysylltu â phlismona modern yn anhygoel o bwysig i mi.

Fy ngweledigaeth i yw bod cymunedau amrywiol Gwent yn cydweithio i gyflawni cydlyniant cymunedol. Rwyf am i Went fod yn lle y gall pobl fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, heb ofni profi casineb o unrhyw fath, gan gynnwys anoddefgarwch crefyddol.

Ledled y DU, ac yn wir y byd, mae pwysau gwleidyddol a phryderon cymdeithasol ac economaidd wedi achosi cynnydd mewn tensiynau cymunedol. Mae gwahaniaethu'n digwydd o hyd felly mae'n rhaid i ni barhau i hyrwyddo a diogelu ein hegwyddorion o oddefgarwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rhan o'm rôl i yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y ffordd mae gwasanaethau plismona'n cael eu darparu yng Ngwent. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw un sy'n ymwneud â'r heddlu yn cael ei drin yn gyfartal, gyda thegwch a gyda pharch.

Mae hefyd yn bwysig i mi ein bod, cyn belled ag y gallwn, yn sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, fel y gall pobl fod yn hyderus ein bod yn deall eu hanghenion a'u disgwyliadau fel dinasyddion.

Mae deall materion sy'n ymwneud â ffydd a chrefydd yn hollbwysig i unrhyw wasanaeth heddlu sy'n ceisio sicrhau hyder a chydlyniant yn ei gymunedau lleol. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ni fynd i'r afael â phryderon cymunedol, ni waeth beth yw crefydd pobl.

Riportio trosedd casineb

Os ydych chi'n profi neu'n gweld trosedd casineb, riportiwch y digwyddiad wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101. Gallwch riportio ar Facebook, Twitter ac ar wefan Heddlu Gwent hefyd. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Mae cymorth ychwanegol ar gael gan ganolfan dioddefwyr Heddlu Gwent, Connect Gwent.

Gallwch gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr hefyd i gael cymorth, cyngor a chefnogaeth.