Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd yn dechrau ar eu gyrfa

11eg Mawrth 2022

Pleser o'r mwyaf oedd croesawu deg Swyddog Cymorth Cymunedol newydd i Heddlu Gwent yr wythnos hon.

Mae'r swyddogion newydd hyn wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn ymuno â thimau plismona cymdogaeth ledled y rhanbarth.

Maent yn ymuno â'r 162 o swyddogion cymorth cymunedol sydd eisoes yn gwasanaethu cymunedau ledled Gwent ac yn rhan o'n cynllun parhaus i gynyddu rhifau i 196 dros y tair blynedd nesaf.

Swyddogion Cymorth Cymunedol yw'r ddolen rhwng yr heddlu a'n cymunedau, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu cymunedau mwy cydlynus ledled Gwent. Nid yw'n swydd hawdd ac mae swyddogion cymorth cymunedol yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Mae'r swyddogion newydd hyn wedi ymroi i amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau ac maent yn ymuno â Heddlu Gwent ar adeg dyngedfennol. Dymunaf bob hwyl iddynt gyda'u gyrfa newydd.