Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn derbyn gwobr

2il Mawrth 2020

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (Swyddfa'r Comisiynydd) wedi ennill gwobr genedlaethol am dryloywder am y pumed tro yn olynol.

Mae'r Marc Ansawdd yn cael ei ddyfarnu i swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throsedd sy'n gallu dangos eu bod yn rhoi gwybodaeth allweddol i'r cyhoedd ar eu gwefannau, a hynny mewn fformatau hygyrch.

Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu gan Comparing Police and Crime Commissioners, corff cenedlaethol annibynnol sy'n monitro gwaith llywodraethu'r heddlu, a chaiff ei noddi gan Grant Thornton.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: Rwyf wrth fy modd bod fy swyddfa wedi cael ei chydnabod am fodloni gofynion tryloywder statudol am y pumed tro yn olynol.

"Mae'r wobr hon yn dangos bod fy nhîm yn gwneud eu gorau glas i gynnal busnes yn agored, yn onest ac yn dryloyw, ac i sicrhau bod gwybodaeth allweddol ar gael i drigolion mewn ffordd hygyrch."