Partneriaid yn arwain y ffordd i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn

22ain Medi 2023

Mae menter newydd i hyrwyddo ac annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei lansio yr wythnos hon.

Cynhaliodd partneriaid o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Mwy Diogel – gan gynnwys Heddlu Gwent, Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a Chyngor Caerffili – ddigwyddiad lansio arbennig yn Ystrad Mynach ddydd Iau (21/02/23).

Mae'r fenter, o'r enw LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn), yn ceisio rhoi cyngor i'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â chŵn, yn ogystal â gwella diogelwch a lles cŵn. Mae hefyd yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anystyriol gan unigolion sydd â chŵn mewn ffordd sy'n amddiffyn ac yn tawelu meddwl y cyhoedd.

Bydd menter LEAD yn galluogi partneriaid i rannu gwybodaeth a rhoi ystod o fesurau ar waith, megis llythyrau rhybuddio, contractau ymddygiad derbyniol ac, yn y pen draw, camau gorfodi os yw hynny'n briodol.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mike Richards o Heddlu Gwent: “Mae'r fenter bartneriaeth hon yn cael ei lansio yn dilyn nifer o achosion trasig yn ein hardal, lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol gan gi. Mae mwy o ymwybyddiaeth o ymosodiadau cŵn ymysg ein cymunedau erbyn hyn, felly rydyn ni eisiau codi hyn ymhellach a gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo perchnogaeth ddiogel ar gŵn.

“Mae ymrwymiad ar y cyd rhwng yr holl sefydliadau sy'n rhan o'r fenter i gadw'r cyhoedd yn ddiogel. Yn dilyn y lansiad yn ardal Caerffili, rydyn ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cyflwyno hyn yn y pedair ardal cyngor arall yng Ngwent.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili: “Rydyn ni'n falch o gynnal lansiad y fenter newydd bwysig hon sy'n addo cael effaith gadarnhaol ledled ein cymunedau. Mae LEAD wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol fel yr arfer orau ar gyfer hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol a byddwn ni'n gweithio gyda pherchnogion cŵn i annog a chefnogi'r ymddygiad hwn.

“Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd gyflwyno neges glir i'n trigolion, sef os bydd unrhyw un yn methu â chydymffurfio â'n hymyriadau, byddwn ni'n gweithredu i orfodi'r gyfraith ac amddiffyn y cyhoedd pryd bynnag y bo angen a lle mae deddfwriaeth yn caniatáu hynny.”

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas: “Cefais y fraint o siarad yn lansiad menter LEAD a chlywed o lygad y ffynnon gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn ymosodiadau cŵn.

“Rhaid i ni annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anystyriol gan rai perchnogion cŵn, ac rwy’n gobeithio gweld y cynllun LEAD yn cael ei ehangu ledled Gwent.”

Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i ffonio'r awdurdod lleol am gŵn swnllyd, baw cŵn, bridio anghyfreithlon neu gŵn crwydr.

Ffoniwch Heddlu Gwent ar 101, neu anfonwch neges drwy Facebook neu Twitter am fridiau anghyfreithlon, ymladd cŵn wedi'u trefnu, cŵn peryglus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda chŵn.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.