Mae cymorth ar gael i ddioddefwyr troseddau yng Ngwent
Gall dioddefwyr troseddau yng Ngwent barhau i gael cymorth a chefnogaeth gan ganolfan dioddefwyr Connect Gwent tra eu bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r Llywodraeth i aros gartref.
Connect Gwent, a ariennir drwy Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yw'r unig ganolfan o'i math yng Nghymru ar gyfer dioddefwyr a thystion troseddau.
Mae'n dod ag amrywiaeth o sefydliadau arbenigol at ei gilydd o dan yr un to i roi cyngor, eiriolaeth, cymorth ac arweiniad i ddioddefwyr, pa un a ydyn nhw’n dewis hysbysu'r heddlu am ddigwyddiadau ai peidio.
Mae gan y ganolfan staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio ar draws pum ardal awdurdod lleol Gwent o Age Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Umbrella Cymru, Cymorth i Ddioddefwyr, a New Pathways.
Dywedodd Sam Heatley, cydgysylltydd Connect Gwent: "Rwyf yn awyddus i sicrhau dioddefwyr troseddau ein bod yn dal i fod ar agor, a'n bod ni yma i helpu.
"Yn amlwg, ni allwn gynnal unrhyw ymweliadau â chartrefi ar hyn o bryd, ond mae ein staff i gyd yn gweithio o bell ac rydym ni yma i’ch cynorthwyo chi ym mha bynnag fodd y gallwn."
I siarad â chynghorydd yn Connect Gwent ffoniwch 0300 123 21 33. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn www.connectgwent.org.uk.