Hwb ariannol ar gyfer drôn chwilio tanddwr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi dyrannu cyllid tuag at ddrôn tanddwr newydd a fydd yn helpu Cymdeithas Achub Ardal Hafren (SARA) i chwilio hydoedd dŵr sy'n dechnegol heriol.
Gwirfoddolwyr yw criw SARA ac maent yn cynorthwyo Heddlu Gwent yn rheolaidd gyda chwiliadau am bobl coll a digwyddiadau ar hyd aber afon Hafren.
Bydd y drôn arbenigol yn rhoi cymorth i griwiau chwilio amgylcheddau tanddwr anodd yn gyflymach ac yn fwy diogel, ac yn lleihau'r risgiau i'r gwirfoddolwyr yn ystod ymgyrchoedd heriol.
Mae'r cyllid yn adlewyrchu ymrwymiad y Comisiynydd i roi cymorth i bartneriaid sy'n chwarae rhan hollbwysig yn amddiffyn cymunedau ac yn cynorthwyo gwasanaethau brys ledled Gwent.
Meddai Jane Mudd: "Mae SARA yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Gwent a thu hwnt, ac mae'n rhoi cymorth gwerthfawr i Heddlu Gwent yn rheolaidd.
"Rwyf yn falch i gyfrannu tuag at y drôn newydd yma, a fydd yn helpu i gadw gwirfoddolwyr yn ddiogel wrth iddyn nhw gyflawni gwaith pwysig."