Heddlu Bach Ysgol Gynradd New Inn
Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd â disgyblion o Ysgol Gynradd New Inn i glywed am eu cyflawniadau yn ystod eu cyfnod fel Heddlu Bach.
Roeddwn yn falch o weld dull rhagweithiol iawn o ymdrin â diogelwch cymunedol.
Dywedodd y disgyblion wrthyf am yr ystod eang o faterion y maen nhw wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ohonynt yn yr ysgol a'r gymuned leol drwy weithio ochr yn ochr â'r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth leol.
Manteisiodd y disgyblion ar y cyfle i ofyn amryw o gwestiynau i mi am fy rôl a fy nghyfrifoldebau.
Roedd yn bleser dosbarthu tystysgrifau mewn 'seremoni basio' i'r grŵp fel arwydd o ddiolch am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn.
Rwy'n mwynhau'r sesiynau hyn yn fawr iawn. Maen nhw’n fy helpu i ddeall beth sy'n bwysig i blant a phobl ifanc, sy'n helpu i lywio gwaith fy nhîm a Heddlu Gwent.
Hoffwn ddiolch i ddisgyblion, staff a thîm NXT Gen sydd wedi cefnogi'r grŵp.