Gyrwyr yn cael eu hannog i wisgo gwregys

2il Gorffennaf 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn cefnogi ymgyrch Heddlu Gwent i annog modurwyr i wisgo eu gwregys diogelwch.

Dywedodd: "Nid oedd chwarter y bobl a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Ngwent y llynedd yn gwisgo gwregys diogelwch.

"Does dim amheuaeth o gwbl bod gwregysau'n achub bywydau ac yn helpu i rwystro anafiadau difrifol“.

“Gall methu â gwisgo gwregys arwain at ddirwy o £100 yn y fan a'r lle. Os cewch chi eich erlyn, uchafswm y ddirwy yw £500.

“Felly peidiwch â pheryglu eich bywyd eich hun a phobl eraill, cadwch yn ddiogel a gwisgwch eich gwregys."