Gwirfoddolwyr Dalfeydd Gwent yn Ennill Gwobr Genedlaethol

17eg Mai 2019

Yr wythnos hon, enillodd Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd Gwent wobr gan Gymdeithas Cenedlaethol yr Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.

Mae'r cynllun, sy'n cynnwys naw gwirfoddolwr, wedi cael ei ganmol am ei waith yn monitro llesiant unigolion a gaiff eu cadw yn y ddwy ddalfa a weithredir gan Heddlu Gwent.

Soniodd cadeirydd y cynllun a'r aelod presennol sydd wedi gwasanaethu hiraf, Justin Johnstone, am ei falchder yn dilyn y cyhoeddiad: "Ar ran fy nghyd-wirfoddolwyr, mae'n anrhydedd derbyn y wobr hon am ein gwaith fel ymwelwyr annibynnol â dalfeydd.

"Drwy gydol fy naw mlynedd yn rhan o'r cynllun, mae'r ymrwymiad a ddangoswyd gan bob un o'r gwirfoddolwyr wedi creu argraff eithriadol arnaf.

"Yn aml, mae'r rhai hynny sy'n cael eu cadw yn y ddalfa yn agored iawn i niwed, felly mae'n bwysig eu bod yn gwybod bod pobl yn gofalu amdanynt, yn ogystal â'u hawliau.

Mae ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn ymweld â dalfeydd yn ddirybudd bob wythnos er mwyn sicrhau bod hawliau, hawliadau, llesiant ac urddas unigolion sy'n cael eu cadw yn y ddalfa yn cael ystyriaeth briodol. Yna, maent yn adrodd ar eu canfyddiadau i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy'n dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.

Gan ganmol ei wirfoddolwyr, meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent: "Rwy'n falch bod fy ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.

"Maent yn aelodau annibynnol o'n cymunedau sy'n chwarae rôl hanfodol wrth fonitro safonau'r ddalfa a'r ffordd y caiff unigolion eu trin yn y ddalfa.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un o'n gwirfoddolwyr am eu hamser a'u hymrwymiad."

Mae Cymdeithas yr Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi, yn arwain ac yn cynrychioli cynlluniau ymwelwyr â dalfeydd a gaiff eu rhedeg yn lleol.

Dywedodd Katie Kempen, Prif Weithredwr Cymdeithas yr Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd: "Mae cynlluniau ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfle i oruchwylio maes plismona sy'n wynebu pwysau uchel ac sy'n aml yn gudd.

"Mae'r gwobrau hyn yn dangos sut y mae cynlluniau lleol yn defnyddio adborth gwirfoddolwyr i wneud newidiadau a sicrhau bod dalfeydd yn ddiogel ac yn trin pawb ag urddas. Rwy'n llongyfarch y cynlluniau ar eu cyflawniadau."

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd Gwent, ewch i http://bit.ly/GwentICVs