Gwella craffu a thryloywder

18fed Medi 2020

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn gweithio gyda Phanel yr Heddlu a Throseddu Gwent i wella’r gwaith o graffu ar berfformiad Heddlu Gwent.

Arweiniodd y tîm weithdy ar gyfer y Panel Heddlu a Throseddu i'w helpu i ddeall y gwelliannau rydym wedi eu gwneud yn y ffordd rydym yn adrodd am berfformiad mewn perthynas â'r Cynllun Heddlu a Throseddu

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Fy nghyfrifoldeb i yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd, i sicrhau bod Heddlu Gwent yn cyflawni mewn perthynas â'r Cynllun Heddlu a Throseddu, a'u bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gwent.

“Yn ei dro, swyddogaeth Panel yr Heddlu a Throseddu yw fy nwyn i i gyfrif, felly mae'n hanfodol bod ganddo fynediad at y wybodaeth gywir, mewn fformat sy'n hawdd ei ddeall, er mwyn sicrhau craffu agored a gonest.

“Mae fy nhîm wedi bod yn gweithio'n galed i wella'r ffordd rydym yn adrodd ar berfformiad a hoffwn ddiolch iddynt am eu holl waith caled. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd Panel yr Heddlu a Throseddu, Gillian Howells, yr is-grŵp perfformiad, a holl aelodau'r panel am eu cefnogaeth hefyd.”