Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent

22ain Mehefin 2020

Ers 2014 mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi buddsoddi dros £800,000 bob blwyddyn yng Ngwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent.

Mae'r gwasanaeth yn rhoi cyngor a chymorth wedi'i dargedu i ddefnyddwyr alcohol a chyffuriau, eu teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol a all fod yn ymdrin â phobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae atal trosedd a rhoi cymorth i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau yn ddau o'r prif flaenoriaethau sydd wrth galon fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

"Yn amlach na pheidio mae camddefnydd alcohol a chyffuriau yn ffactor sy'n cyfrannu at y problemau hyn. Oherwydd hyn, rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i fynd i'r afael â'r broblem hon, i helpu i gadw trigolion yn ddiogel a rhoi cymorth i'r bobl sydd ei angen.

"Mae fy swyddfa wedi buddsoddi dros £800,000 y flwyddyn yn y gwasanaeth ers 2014. Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos pa mor ddifrifol rydym yn ystyried y broblem a pha mor ymroddedig yr ydym i fod yn rhan o'r ateb.

"Trwy roi sylw i broblemau cyffuriau ac alcohol, a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd meddwl mewn llawer o achosion i ymchwilio i'w hachosion isorweddol, rydym yn cynnig llwybr bywyd gwahanol i bobl ac yn atal trosedd mewn cymunedau."

Defnyddir y rhan fwyaf o'r cyllid i roi cymorth i Gyfiawnder Troseddol Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent sy'n gweithio gyda phobl sydd naill ai o fewn y system cyfiawnder troseddol neu ar fin mynd i mewn iddi.

Yn 2018/19 canolbwyntiodd y gwasanaeth ar fynd i'r afael â symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol, digartrefedd a thrais domestig trwy waith partner cydweithredol.

Gweithiodd Cyfiawnder Troseddol Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent yn uniongyrchol gyda Heddlu Gwent a phartneriaid allweddol i ddarparu ymateb amlasiantaeth i'r problemau hyn, gan eistedd mewn cyfarfodydd strategaeth troseddau difrifol a threfnedig, grwpiau gorchwyl pobl sy'n cysgu allan, a mynd gyda'r heddlu i weithredu gwarantau i sicrhau bod anghenion brys pobl fregus yn cael eu diwallu a'u bod yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth bellach.

Dywedodd Jon Edwards, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent: "Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent yn enghraifft wych o waith partner i gefnogi'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae hwn yn wasanaeth hynod o werthfawr, sy'n ceisio rhoi cymorth, addysgu a chynnig llwybrau i ddargyfeirio pobl oddi wrth y system cyfiawnder troseddol."

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent.