Gwaith yn dechrau ar adnodd heddlu newydd

17eg Rhagfyr 2019

Mae'r gwaith o ddarparu timau plismona rheng flaen gydag amgylchedd addas i'r pwrpas wedi dechrau, wrth i waith adeiladu gychwyn ar bencadlys newydd Heddlu Gwent.

Bydd safle Llantarnam yn gartref i ystafell reoli'r llu, sef y pwynt cyswllt cyntaf i bobl sy'n ffonio'r llu, ynghyd â thimau troseddau mawr, swyddogaethau hyfforddiant, gwasanaethau cymorth ac uwch reolwyr, ac mae'n gam mawr ymlaen yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth heddlu modern i bobl Gwent.

Pan fydd wedi ei gwblhau, bydd y pencadlys newydd yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod anghenion lles a hyfforddiant staff plismona yng Ngwent yn cael eu diwallu, i'w helpu nhw i amddiffyn a thawelu meddwl y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Mae plismona modern yn newid, wrth i natur y troseddau rydym ni'n ymdrin â nhw ddatblygu. Mae angen i ni sicrhau bod ein hadnoddau'n cefnogi ein timau ar y rheng flaen wrth iddyn nhw fynd i'r afael â'r heriau hyn.

"Rydym am ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i amddiffyn pobl Gwent ac er mwyn gwneud hynny mae angen i ni fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg a dulliau gwaith blaengar. Mae ein pencadlys newydd yn gam arall ar y ffordd i gyflawni hyn."

Mae'r pencadlys presennol yng Nghroesyceiliog bron yn 50 oed ac mae angen buddsoddiad sylweddol. Cafodd pob posibilrwydd hyfyw ar gyfer aros yn y safle presennol ei ystyried, ynghyd â phrynu adeiladau sy'n bodoli eisoes, ond adeiladu pencadlys newydd yn Llantarnam sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.

Bydd cost yr adeilad oddeutu £32miliwn ac mae cynllunio ariannol gofalus dros nifer o flynyddoedd yn golygu y bydd cronfa wrth gefn benodol yn talu amdano. Amcangyfrifir y bydd costau rhedeg y pencadlys newydd £1.1miliwn y flwyddyn yn llai na chostau cyfredol rhedeg y pencadlys presennol a safleoedd cysylltiedig.

Bydd yr adeilad newydd ar safle sydd tua hanner ôl troed y pencadlys presennol a bydd yn darparu lle ar gyfer tua 480 o swyddogion a staff heddlu.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r pencadlys heddlu presennol wedi ein gwasanaethu'n dda dros y blynyddoedd, ond erbyn hyn mae angen gwaith cynnal a chadw drud ar yr adeilad ac nid yw ei ddyluniad yn cefnogi ffyrdd modern o weithio.

"Rydym wedi aros yn hir ond gall gwaith ddechrau o ddifrif yn awr ar y pencadlys newydd. Rwyf wedi cael sicrwydd mai dyma'r opsiwn gorau i Heddlu Gwent ar gyfer y dyfodol ac ar ôl iddo gael ei adeiladu bydd yr adeilad yn ganolfan addas i'r pwrpas ar gyfer plismona modern.

“Mae'r pencadlys newydd yn rhan o'r cam cyntaf yn ein cynlluniau uchelgeisiol a amlinellir yn ein strategaeth ystadau i wella adnoddau heddlu yng Ngwent. Mae'r Prif Gwnstabl a mi wedi ymroi i ddarparu gwasanaeth plismona modern ac effeithiol sy'n defnyddio technoleg newydd ac arferion gweithio cyfredol i ddiogelu a thawelu meddwl y cyhoedd."

BAM Construction yng Nghymru arweiniodd cam dylunio'r prosiect a nhw fydd y prif gontractwr ar gyfer y pencadlys newydd. Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer yr adeilad newydd 5,178m2 ei gymeradwyo'r llynedd a bydd y gwaith o symud o'r pencadlys presennol i'r un newydd yn digwydd fesul cam.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu gymryd rhyw ddwy flynedd a bydd y gwaith wedi gorffen yn yr hydref 2021.