Galw ar Lywodraeth y DU i Gynyddu Cyllid yr Heddlu

29ain Tachwedd 2017

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi galw ar Lywodraeth y Du i gynyddu cyllid ar gyfer y gwasanaeth heddlu a lleihau pwysau ar gymunedau lleol wrth iddo lansio ymgynghoriad cyhoeddus heddiw yn gofyn i breswylwyr faint maen nhw’n fodlon talu am eu plismona lleol.

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent Jeff Cuthbert sy’n gyfrifol am bennu’r praesept (cyfanswm yr arian rydych yn ei dalu trwy eich treth cyngor ar gyfer plismona) ac am baratoi a phennu’r gyllideb flynyddol i sicrhau bod pawb sy’n byw yng Ngwent yn derbyn gwasanaeth plismona effeithlon ac effeithiol. Gyda hyn mewn golwg, mae Mr Cuthbert yn lansio ei arolwg ymgynghoriad Dweud eich Dweud heddiw.

Mae cyllideb Heddlu Gwent wedi gostwng 40% mewn termau real ers dechrau rhaglen cyni Llywodraeth y DU yn 2010/11. Dywed Mr Cuthbert bod hyn wedi ei adael heb fawr o ddewis ond troi at y boblogaeth leol i sicrhau bod gan Heddlu Gwent y cyllid angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel.

Bydd yr ymgynghoriad praesept sy’n cael ei lansio gan Mr Cuthbert heddiw yn helpu i lywio ei ystyriaethau wrth bennu cyllideb y flwyddyn nesaf (2018/19) a lefel ei braesept. Mae’r ymgynghoriad yn darparu amrywiaeth o opsiynau ac yn gofyn i breswylwyr pa lefel praesept sy’n deg yn eu barn nhw. Mae hefyd yn esbonio canlyniadau ariannol y dewisiadau hynny.

Byddai cynnydd o 3.99% yn y praesept (18c ychwanegol yr wythnos i bob aelwyd band D) yn galluogi’r Comisiynydd i gynnal y 320 o swyddogion heddlu newydd a recriwtiwyd ers mis Ebrill 2016 a pharhau i fuddsoddi mewn meysydd o angen sy’n dod i’r amlwg fel seiberdroseddu, diogelu’r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas ac ariannu ymarferwyr iechyd meddwl yn yr ystafell reoli galwadau. Byddai hyn hefyd yn helpu Heddlu Gwent i fantoli’r gyllideb. Byddai cynnydd o 5.99% y flwyddyn (sy’n gyfwerth â 26c ychwanegol yr wythnos i eiddo band D cyffredin) yn cynyddu cyllid heddlu a throseddu dros y tymor canolig ac yn ychwanegu £1 miliwn pellach at y gyllideb, sy’n cyfateb i 20 swyddog heddlu.

Gan annog cymaint â phosibl o bobl yng Ngwent i leisio eu barn trwy gwblhau’r arolwg, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae pwysau ar amser ac adnoddu’r heddlu yn cynyddu. Efallai bod hynny oherwydd y cynnydd yn nifer y troseddau sy’n cael eu cofnodi, y ffaith bod troseddau mwy cymhleth yn cael eu cyflawni neu fwy o angen diogelu’r rhai agored i niwed mewn cymdeithas. Beth bynnag yw’r rheswm mae mwy o alw nag erioed ar yr heddlu i ymateb. Mae’r pwysau ar ein swyddogion a staff yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae’r setliad cyllid presennol ar gyfer plismona gan Lywodraeth y DU yn parhau i leihau ac felly nid yw’n ddigonol i ymateb i’r galw presennol, heb sôn am y galw cynyddol. Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu’n cynyddu’r praesept yn lleol i wneud iawn am y diffyg.


Fy mlaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod cyllid yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol mewn plismona rheng flaen yng Ngwent ac rwyf wedi ymroi i sicrhau bod gan y Prif Gwnstabl gyllid digonol i recriwtio swyddogion newydd i fynd i’r afael â’r mathau o droseddau sy’n dod i’r amlwg fel seiberdroseddu ac i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rwy’n deall nad oes neb eisiau talu mwy ond nid oes gennym fawr o ddewis ond troi at y boblogaeth leol am y cyfraniad hwnnw er mwyn sicrhau bod gan Heddlu Gwent y cyllid angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel. Dyma pam rwyf eisiau clywed barn pobl a dyma pam rwyf wedi lansio’r ymgynghoriad Dweud eich Dweud heddiw. Os na chaiff praesept yr heddlu ei gynyddu ac os bydd y diffyg buddsoddiad hwn yn parhau, yn ddiamau bydd yn cael effaith sylweddol ar blismona ledled Gwent gyda lleihad anochel yn y gwasanaeth.”

Bydd yr arolwg yn dechrau heddiw (dydd Mercher Tachwedd 29) a’r dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw 4pm ar ddydd Sul 7 Ionawr 2018. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn cael eu defnyddio i helpu i lywio’r gwaith o bennu praesept yr heddlu ar gyfer 2018 / 2019.


Dilynwch y ddolen i gwblhau fersiwn ar-lein yr arolwg http://bit.ly/PraeseptGwent18-19 


Bydd yr arolwg ar gael mewn fformatau eraill gan swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gais trwy anfon e-bost at Commissioner@gwent.pnn.police.uk. Anfonwch gopïau electronig at y cyfeiriad hwn ac anfonwch bob ymateb copi caled drwy’r post at:

Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Pencadlys yr Heddlu
Croesyceiliog
Cwmbrân
Torfaen
NP44 2XJ