Dyfodol Cadarnhaol yn rhoi cymorth i berson ifanc wireddu ei freuddwyd rygbi

22ain Chwefror 2024

Mae prosiect sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc sy'n cael anhawster ymdopi ag addysg prif ffrwd wedi helpu un chwaraewr rygbi addawol i daclo'r heriau roedd yn eu hwynebu.

Roedd gan Harley Ryan, 17, o Gwmbrân, broblemau ymddygiad a arweiniodd at waharddiad o'r ysgol ym mlwyddyn 10 ac atgyfeiriad i'r Uned Atgyfeirio Disgyblion. Tra'r oedd yno, cafodd ei atgyfeirio i'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol a rhoddwyd amserlen a oedd yn fwy addas i'w ddiddordebau iddo, gan gynnwys rhaglen cryfder a chyflyru, gyda'r nod o wella ei ffitrwydd corfforol a'i sgiliau rygbi.

Mae bellach yn astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru, cymwysterau BTEC Chwaraeon dwbl a mathemateg yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ac mae wedi cael ei ddewis i chwarae i garfan dan 18 Dreigiau Casnewydd.

Mae Dyfodol Cadarnhaol yn derbyn cyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i ddarparu gweithgareddau a chymorth i bobl ifanc ledled Gwent. Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael cefnogaeth gan fentoriaid sy'n oedolion, mae Dyfodol Cadarnhaol yn atgyfnerthu ymddygiad da ac yn helpu i osod seiliau a fydd yn caniatáu iddynt gael dyfodol hapus ac iach.

Darllenwch fwy