Disgyblion yn dysgu am effaith ymddygiad negyddol

21ain Medi 2023

Yr wythnos yma ymunodd fy nhîm gyda swyddogion o Heddlu Gwent a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd ar gyfer gweithdy 'troseddau a chanlyniadau' yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed.

Mae'r gweithdy, sy’n rhedeg dros chwe wythnos, yn rhan o brosiect dargyfeirio i addysgu pobl ifanc am beryglon a risgiau ymddygiad negyddol.

Yn ystod y sesiwn, bu disgyblion yn trafod canlyniadau ymddygiad troseddol. Gwnaethant siarad am effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd, a sut maen nhw'n credu ei fod yn effeithio ar bobl, eu cymunedau, a'r gwasanaethau brys.

Bydd sesiynau yn y dyfodol yn cynnwys cyflwyniadau gan bartneriaid gan gynnwys ymwybyddiaeth cyffuriau gan Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, llinellau cyffuriau ac ecsploetiaeth gan Ymddiriedolaeth St Giles, ac effaith trosedd ar ddioddefwyr.

Mae dargyfeirio ac addysg yn sbardunau allweddol i atal pobl ifanc rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ac rwyf yn falch o weld arferion ataliol i yn cael eu defnyddio yn ein hysgolion.