Dathlu Mis Pride

29ain Mehefin 2026

Ym mis Mehefin rydym yn nodi Mis Pride pan fyddwn ni'n cydnabod a chefnogi pobl sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+.

Dechreuodd yn nherfysgoedd Stonewall yn yr Unol Daleithiau ym 1969, pan safodd pobl LHDTC+ yn erbyn cyrchoedd, gwahaniaethu a chamdriniaeth gan yr heddlu. 

Er bod pethau wedi gwella'n ddiamheuol ers hynny, mae perthynas llawer o aelodau'r gymuned LHDTC+ gyda'r heddlu yn parhau i fod yn anodd. Mae ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu yn isel o hyd ymysg llawer o gymunedau LHDTC+, ac mae nifer o droseddau yn erbyn pobl LHDTC+ yn parhau i ddigwydd heb gael eu riportio.

Mae casineb tuag at y cymunedau hyn yn real iawn o hyd, ac mae pobl ifanc  LHDTC+ ymysg rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Pan fydd pobl yn gofyn i mi pam fod angen Mis Pride arnom ni, dyma'r rheswm pam.

Rwyf am i'n cymunedau fod yn llefydd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn a niwed. Cymunedau lle mae pawb yn derbyn ei gilydd, ac yn trin ei gilydd gyda pharch a dealltwriaeth.

Yn ystod fy ymgyrch i gael fy ethol yn 2024, gwnes i ymrwymiad clir a diwyro i amrywiaeth a chynhwysiant. Mae wedi ei wau trwy fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, ac rwyf yn falch bod Prif Gwnstabl Mark Hobrough yn rhannu'r ymrwymiad hwnnw.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae amrywiaeth a chynhwysiant wedi cael ei ddefnyddio fel label cyfleus gan bobl sy'n ceisio tanseilio gwasanaethau cyhoeddus. Ond, yn ei hanfod, mae amrywiaeth a chynhwysiant yn cydnabod gwahanol brofiadau pobl, a sicrhau bod gwasanaethau fel plismona yn deall, adlewyrchu a gwasanaethu pob cymuned yn deg.

Pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u parchu, maen nhw'n fwy tebygol o ymddiried yn yr heddlu, adrodd am droseddau a cheisio cymorth pan fydd ei angen arnynt. Mae dod at ein gilydd a siarad am y materion hyn, fel yr ydym yn ei wneud trwy gydol Mis Pride, yn helpu i feithrin yr ymddiriedaeth honno, sydd mor hanfodol i greu cymunedau mwy diogel a chadarn i bawb.