Cyfarfod ar atal caethwasiaeth

2il Hydref 2020

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Roeddwn i’n falch o ymuno â'r Fonesig Sara Thornton, y Comisiynydd Annibynnol ar Atal Caethwasiaeth, ac aelodau o Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru, mewn cyfarfod bord gron yr wythnos hon.

"Roeddem yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Fonesig Sara am y sefyllfa yng Nghymru, gan gynnwys am Heddlu Gwent yn arestio tri o bobl yn ddiweddar ar amheuaeth o droseddau caethwasiaeth fodern.

"Roeddem ni i gyd yn cytuno bod angen gwneud mwy i godi ymwybodol pobl o'r drosedd warthus hon.

"Cymerwch amser i ddysgu sut i sylwi ar yr arwyddion. Os ydych yn amau bod caethwasiaeth fodern yn digwydd, yn amau nad yw rhywbeth yn iawn, neu os oes gennych bryderon am rywun, adroddwch am hynny cyn gynted ag y gallwch."

Mae rhai o'r arwyddion i chwilio amdanynt yn cynnwys:

  • cyswllt cyfyngedig â’u teulu
  • cam-drin corfforol/ yn ymddangos nad ydynt yn cael digon o faeth
  • drwgdybio awdurdod
  • dim ffrindiau
  • ymddwyn fel pe bai o dan reolaeth rhywun arall
  • dryswch
  • osgoi cyswllt llygad
  • methu â siarad unrhyw Saesneg

Os ydych yn amau y gallai rhywun fod yn ddioddefwr ffoniwch Heddlu Gwent ar 101. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.